1
S. Luc 3:21-22
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
A bu, pan fedyddiasid yr holl bobl, ac yr Iesu wedi Ei fedyddio ac yn gweddïo, yr agorwyd y nef, a disgynodd yr Yspryd Glân mewn rhith corphorol, fel colommen, Arno; a llais o’r nef a ddaeth, TYDI YW FY MAB ANWYL, YNOT TI Y’M BODDLONWYD.
Cymharu
Archwiliwch S. Luc 3:21-22
2
S. Luc 3:16
attebodd Ioan i bawb o honynt, gan ddywedyd, Myfi, yn wir, â dwfr yr wyf yn eich bedyddio chwi, ond dyfod y mae un cryfach na myfi, i’r Hwn nid wyf deilwng i ddattod carrai Ei esgidiau.
Archwiliwch S. Luc 3:16
3
S. Luc 3:8
Dygwch, gan hyny, ffrwythau teilwng o edifeirwch, ac na ddechreuwch ddywedyd ynoch eich hunain, Megis tad y mae genym Abraham, canys dywedaf wrthych, Abl yw Duw o’r cerrig hyn i godi plant i Abraham.
Archwiliwch S. Luc 3:8
4
S. Luc 3:9
Ac eisoes hefyd y fwyall a osodwyd at wreiddyn y preniau: pob pren, gan hyny, nad yw’n dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac i’r tân y’i bwrir.
Archwiliwch S. Luc 3:9
5
S. Luc 3:4-6
fel yr ysgrifenwyd yn llyfr geiriau Eshaiah y prophwyd, “Llef un yn llefain Yn yr anialwch parottowch ffordd Iehofah, Gwnewch yn uniawn Ei lwybrau Ef. Pob pant a lenwir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, A bydd y gŵyr-geimion yn uniawn, a’r geirwon yn ffyrdd gwastad; A gwel pob cnawd iachawdwriaeth Duw.”
Archwiliwch S. Luc 3:4-6
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos