1
S. Ioan 3:16
Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.)
Canys felly y carodd Duw y byd, fel mai Ei Fab unig-anedig a roddodd Efe, fel y bo i bob un y sy’n credu Ynddo mo’i golli, eithr cael o hono fywyd tragywyddol.
Cymharu
Archwiliwch S. Ioan 3:16
2
S. Ioan 3:17
Canys ni ddanfonodd Duw Ei Fab i’r byd fel y barnai y byd, eithr fel yr achubid y byd Trwyddo.
Archwiliwch S. Ioan 3:17
3
S. Ioan 3:3
Attebodd yr Iesu, a dywedodd wrtho, Yn wir, yn wir y dywedaf wrthyt, Oddieithr i neb ei eni o newydd ni all weled teyrnas Dduw.
Archwiliwch S. Ioan 3:3
4
S. Ioan 3:18
Yr hwn sy’n credu Ynddo ni fernir; yr hwn nad yw yn credu, eisoes y’i barnwyd, o herwydd na chredodd yn enw unig-anedig Fab Duw.
Archwiliwch S. Ioan 3:18
5
S. Ioan 3:19
A hon yw’r farn, Fod y goleuni wedi dyfod i’r byd, a charodd dynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni, gan mai drwg oedd eu gweithredoedd.
Archwiliwch S. Ioan 3:19
6
S. Ioan 3:30
Iddo Ef y mae rhaid cynnyddu, ac i mi leihau.
Archwiliwch S. Ioan 3:30
7
S. Ioan 3:20
Canys pob un yn gwneuthur pethau drwg, cas ganddo y goleuni, ac nid yw’n dyfod i’r goleuni fel nad argyhoedder ei weithredoedd
Archwiliwch S. Ioan 3:20
8
S. Ioan 3:36
Yr hwn sy’n credu yn y Mab sydd a chanddo fywyd tragywyddol; ond yr hwn nad yw yn credu yn y Mab, ni wel fywyd, eithr digofaint Duw sydd yn aros arno.
Archwiliwch S. Ioan 3:36
9
S. Ioan 3:14
Ac fel y bu i Mosheh ddyrchafu’r sarph yn yr anialwch, felly, Ei ddyrchafu sydd rhaid i Fab y Dyn
Archwiliwch S. Ioan 3:14
10
S. Ioan 3:35
Y Tad a gâr y Mab; a phob peth a roddodd Efe yn Ei law.
Archwiliwch S. Ioan 3:35
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos