1
Marc 16:15
Y Ffordd Newydd - 4 Efengyl mewn Cymraeg Byw 1971
Yna dywedodd wrthyn nhw, “Ewch i bob rhan o’r byd, a chyhoeddwch y Newyddion Da i bob creadur.
Cymharu
Archwiliwch Marc 16:15
2
Marc 16:17-18
Ac am y rhai sy’n credu, fe wnân nhw y gwyrthiau hyn — bwrw allan gythreuliaid yn f’enw i, a llefaru mewn ieithoedd dieithr; ddaw dim niwed iddyn nhw o afael mewn seirff neu yfed gwenwyn marwol; a phan ddodan nhw eu dwylo ar gleifion bydd y rheiny’n cael iachâd.”
Archwiliwch Marc 16:17-18
3
Marc 16:16
Fe achubir y rhai sy’n credu ac a gaiff eu bedyddio, ond fe gondemnir y rhai na chredan nhw ddim.
Archwiliwch Marc 16:16
4
Marc 16:20
Fe aethon nhwythau allan a phregethu ymhob man, â’r Arglwydd yn cydweithio â nhw ac yn profi gwirionedd eu pregethu drwy’r gwyrthiau a ddilynai.
Archwiliwch Marc 16:20
5
Marc 16:6
Ond fe ddywedodd wrthyn nhw, “Peidiwch â synnu. Rydych yn chwilio am yr Iesu y Nasaread a gafodd ei groeshoelio. Y mae wedi codi. Dyw ef ddim yma. Edrychwch, dyna’r man lle y rhoeson nhw ef i orwedd.
Archwiliwch Marc 16:6
6
Marc 16:4-5
Ond wedi codi eu golwg fe welson nhw fod y garreg, er cymaint oedd, eisoes wedi ei symud o’r neilltu. Wedi mynd i mewn i’r bedd, fe welson nhw ddyn ifanc yn eistedd ar y llaw dde, a gwisg wen amdano, ac fe gawson nhw eu synnu.
Archwiliwch Marc 16:4-5
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos