Pan oedd Iesu ar fin ail‐gychwyn ar ei daith, rhedodd rhyw ddyn ato a phenlinio o'i flaen a gofyn, “Athro da, beth sy raid i mi wneud er mwyn cael bywyd tragwyddol?” Atebodd Iesu, “Pam wyt ti'n fy ngalw i yn dda, oherwydd dim ond Duw sy'n dda. Rwyt ti'n gwybod y gorchmynion: ‘Paid â lladd, paid â godinebu, paid â lladrata, paid â rhoi cam‐dystiolaeth, paid â thwyllo, parcha dy dad a'th fam.’ ” Dwedodd y dyn, “Athro, rydw i wedi cadw at y gorchmynion hyn o'm plentyndod.” Edrychodd Iesu arno a'i hoffi, a dwedodd wrtho, “Rhaid i ti wneud un peth arall; dos, a gwerth bopeth sy gennyt, a rho'r arian i'r tlodion, oherwydd fe gei di drysor yn y nef, a thyrd, dilyn fi.” Trodd y dyn yn welw oherwydd roedd yn gyfoethog iawn ac aeth i ffwrdd yn drist.
Edrychodd Iesu o amgylch a dwedodd wrth ei ddisgyblion, “Fe fydd hi'n anodd i rai cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw!” Rhyfeddodd y disgyblion pan glywson nhw hyn a dwedodd Iesu wrthyn nhw eto, “Blant, mor anodd ydy mynd i mewn i deyrnas Dduw! Mae'n haws i gamel fynd drwy grau nodwydd nag i ddyn cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw ond mae popeth yn bosibl i Dduw.” Roedd y disgyblion wedi rhyfeddu fwy byth a dwedon nhw wrth ei gilydd, “Pwy felly all gael ei achub?” Edrychodd Iesu arnyn nhw a dwedodd, “Dydy'r hyn sy'n amhosibl i bobl ddim yn amhosibl i Dduw.” Dwedodd Pedr wrtho, “Rydyn ni wedi gadael popeth ac wedi dy ddilyn di.” Atebodd Iesu, “Rydw i'n dweud wrthych chi bod y sawl a adawodd dŷ neu frodyr neu chwiorydd neu fam neu dad neu blant neu diroedd, er fy mwyn i, ac er mwyn y Newyddion Da, yn derbyn ganwaith cymaint o ran tai a brodyr a chwiorydd a mamau a phlant a thiroedd, a hefyd erledigaethau, ac yn yr oes sy'n dod, fywyd tragwyddol. Ond bydd llawer o'r rhai cyntaf yn olaf, a'r rhai olaf yn gyntaf.”