1
Genesis 24:12
Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959
Ac efe a ddywedodd, O ARGLWYDD DDUW fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham.
Cymharu
Archwiliwch Genesis 24:12
2
Genesis 24:14
A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr.
Archwiliwch Genesis 24:14
3
Genesis 24:67
Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a’i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.
Archwiliwch Genesis 24:67
4
Genesis 24:60
Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
Archwiliwch Genesis 24:60
5
Genesis 24:3-4
A mi a baraf i ti dyngu i ARGLWYDD DDUW y nefoedd, a DUW y ddaear, na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg: Ond i’m gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gymeri wraig i’m mab Isaac.
Archwiliwch Genesis 24:3-4
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos