1
Exodus 4:11-12
Beibl William Morgan yn cynnwys yr Apocryffa - Argraffiad 1959
A dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, Pwy a wnaeth enau i ddyn? neu pwy a ordeiniodd fudan, neu fyddar, neu y neb sydd yn gweled, neu y dall? onid myfi yr ARGLWYDD? Am hynny dos yn awr; a mi a fyddaf gyda’th enau, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych.
Cymharu
Archwiliwch Exodus 4:11-12
2
Exodus 4:10
A dywedodd Moses wrth yr ARGLWYDD, O fy Arglwydd, ni bûm ŵr ymadroddus, na chyn hyn, nac er pan leferaist wrth dy was; eithr safndrwm a thafotrwm ydwyf.
Archwiliwch Exodus 4:10
3
Exodus 4:14
Ac enynnodd digofaint yr ARGLWYDD yn erbyn Moses; ac efe a ddywedodd, Onid dy frawd yw Aaron y Lefiad? mi a wn y medr efe lefaru yn groyw: ac wele efe yn dyfod allan i’th gyfarfod; a phan y’th welo, efe a lawenycha yn ei galon.
Archwiliwch Exodus 4:14
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos