Bryd hynny, bydd lawen y cyfiawn
Oherwydd y dial a wnaed.
Yng ngwaed y drygionus, o’r diwedd,
Fe’i gwelir yn golchi ei draed.
A dywed pawb oll, “Oes, yn bendant,
Mae gwobr i’r cyfiawn o hyd;
Ac oes, y mae Duw sydd yn barnu
Yn gyfiawn y ddaear i gyd.”