1
Salmau 44:8-10
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Yn Nuw y bu ein hymffrost. Clodforwn d’enw mawr; Ond yr wyt wedi’n gwrthod, Ac nid ei di yn awr I ymladd gyda’n byddin, Ond gwnei i ni lesgáu, Ac fe’n hysbeilir bellach Gan rai sy’n ein casáu.
Cymharu
Archwiliwch Salmau 44:8-10
2
Salmau 44:4b-7-4b-7
Ti sy’n rhoi buddugoliaeth I Jacob, trwot ti Y sathrwn a darostwng Ein holl elynion ni. Nid ymddiriedaf bellach Mewn cleddau na bwâu, Cans ti a gywilyddiaist Y rhai sy’n ein casáu.
Archwiliwch Salmau 44:4b-7-4b-7
3
Salmau 44:22-26
Ond er dy fwyn fe’n lleddir Fel defaid drwy y dydd. Ymysgwyd, pam y cysgi, A’th wyneb teg ynghudd? I’r llwch yr ymostyngwn, Fe’n bwriwyd ni i’r llawr. O cod i’n cynorthwyo, Er mwyn dy gariad mawr.
Archwiliwch Salmau 44:22-26
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos