1
Salmau 40:1-2-1-2
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Fe fûm yn disgwyl, disgwyl Wrth Dduw, ac yna daeth; Fe blygodd i lawr ataf, A gwrando ’nghri a wnaeth. Fe’m cododd o’r pwll lleidiog, Allan o’r mwd a’r baw, A gwneud fy nghamau’n ddiogel Ar graig ddiysgog draw.
Cymharu
Archwiliwch Salmau 40:1-2-1-2
2
Salmau 40:3-4
Fe roddodd im gân newydd I’w foli yn ei glyw. Pan welant, ofna llawer A rhoi eu ffydd yn Nuw. Gwyn fyd pawb sy’n ymddiried Yn Nuw, ein craig, o hyd, Ac nad yw’n troi at feilchion Na duwiau gau y byd.
Archwiliwch Salmau 40:3-4
3
4
Salmau 40:6-8
Nid wyt yn hoffi aberth Nac offrwm neb heb fod Y person hwnnw’n ufudd. Dywedais, “Rwyf yn dod, Mae wedi ei ysgrifennu Mewn llyfr amdanaf fi Fy mod yn gwneud d’ewyllys Yn ôl dy gyfraith di.”
Archwiliwch Salmau 40:6-8
5
Salmau 40:11-12
Paid tithau, Dduw, ag atal Tosturi rhagof fi, Ond cadwer fi’n dy gariad A’th fawr wirionedd di. Mae drygau dirifedi’n Cau drosof megis llen, Camweddau yn fy nallu, A’u rhif fel gwallt fy mhen.
Archwiliwch Salmau 40:11-12
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos