1
Salmau 30:4-5
Salmau Cân Newydd 2008 (Gwynn ap Gwilym)
Chwychwi ffyddloniaid, rhoddwch I’r Arglwydd fawl ar gân, A rhoddwch ddiolch beunydd I’w enw sanctaidd, glân. Am ennyd y mae’i ddicter, Am oes ei ffafrau mawr; A thry wylofain heno’n Llawenydd pan ddaw’r wawr.
Cymharu
Archwiliwch Salmau 30:4-5
2
Salmau 30:10-12-10-12
A all y llwch byth foli Dy lân wirionedd di? O Arglwydd, bydd drugarog, A chynorthwya fi.” Fe droist sachliain f’adfyd Yn wisg i ddawnsio’n llon. Hyd byth, fy Nuw, fe’th folaf Am y drugaredd hon.
Archwiliwch Salmau 30:10-12-10-12
3
Salmau 30:1-3
Dyrchafaf di, O Arglwydd, Am iti f’achub i. Gwrthodaist i’m gelynion Fy ngwneud yn destun sbri. O Arglwydd, gwaeddais arnat, A daethost i’m hiacháu; Fe’m dygaist i i fyny O Sheol, a’m bywhau.
Archwiliwch Salmau 30:1-3
4
5
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos