Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ruth 1:16
Ruth, Stori o gael ei Gollwng yn Rhydd
5 Diwrnod
Does fawr neb yn y Beibl dŷn ni’n uniaethu’n emosiynol â nhw yn fwy na Ruth; tramorwr tlawd, gweddw a wnaeth Dduw yn flaenoriaeth iddi ac a wyliodd wrth iddo drawsnewid ei bywyd. Os wyt ti’n chwilio am anogaeth yn dy amgylchiadau, paid colli’r cynllun darllen hwn!
Mae Haearn yn Miniogi Haearn: Mentora Life-to-Life® yn yr Hen Destament
5 Diwrnod
Wyt ti’n hiraethu am “wneud disgyblion sy’n gwneud disgyblion,” i ddilyn mandad Iesu yn y Comisiwn Mawr (Mathew 28:18-20)? Os felly, falle dy fod wedi darganfod ei bod yn anodd ffeindio rhai i fod yn esiampl dda ar gyfer y broses hon. Esiampl pwy elli di ei dilyn? Sut olwg sydd ar wneud disgyblion mewn bywyd bob dydd? Edrychwn i mewn i’r Hen Destament i weld sut y buddsoddodd pump o ddynion a merched mewn eraill, Bywyd i Fywyd (Life-to-Life®).
Galar
5 Diwrnod
Gall galar deimlo'n annioddefol. Er fod ffrindiau a theulu'n golygu'r gorau drwy gynnig cefnogaeth ac anogaeth, yn aml dŷn ni dal i deimlo nad oes neb yn deall go iawn ein bod ar ben ein hunain ac yn dioddef. Yn y cynllun hwn byddi'n dod wyneb yn wyneb â geiriau o'r Gair fydd yn dy helpu i ddod o hyd i safbwynt Duw, teimlo pryder Duw drosot, a phrofi rhyddhad o'th boen.
Cyfarwyddyd Dwyfol
7 Diwrnod
Bob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n dod yn arbenigwr ar wneud y dewisiadau hynny? Yn y Cynllun Beibl Cyfarwyddyd Dwyfol, mae'r hoff awdur y New York Times, a Uwch-Weinidog Life Church, Craig Groeschel, yn dy annog gyda saith egwyddor o'i lyfr 'Divine Direction', i'th helpu i ddod o hyd i ddoethineb Duw ar gyfer dy benderfyniadau dyddiol. Darganfydda'r cyfeiriad ysbrydol sydd ei angen arnat i fyw stori sy'n anrhydeddu Duw, y byddi di wrth dy fodd yn ei hadrodd.