Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Y Salmau 139:16

Popeth dw i ei Angen
3 Diwrnod
Mae Duw wedi mynd o'n blaen ac mae'n ein hamddiffyn o'r ôl. Mae e wedi delio gydag ein brwydrau eisoes. Mae e'n amddiffyn yr ochr gudd. Dydy digwyddiadau annisgwyl ddim yn peri syndod iddo. Bydd y defosiwn 3 diwrnod manwl hwn yn dy adael wedi dy annog yn y gwirionedd mai Duw yw darparwr yr union ddogn, yr union fesuriad, ar gyfer dy fywyd.

Coda a Dos Ati
5 Diwrnod
Mae pobl yn aml yn dweud, “Rho dy feichiau trwm i’r Arglwydd.” Wyt ti byth yn meddwl tybed: Sut mae gwneud hynny? Mae drygioni'r byd yn teimlo'n rhy drwm. Ac er dy fod yn dymuno llewyrchu golau Iesu, rwyt ti'n meddwl tybed sut olwg sydd arno pan fyddi di'n cael trafferth gweld y golau dy hun. Mae'r defosiwn hwn yn edrych ar sut y gallwn fod yn oleuadau i Iesu hyd yn oed pan fydd ein byd ein hunain yn teimlo'n dywyll.

7 Peth mae'r Beibl yn ei ddweud am Bryder
7 Diwrnod
Mae yna bosibilrwydd i sialensau newydd cymhleth mewn bywyd ein wynebu yn ddyddiol. Ond mae hi run mor debygol y bydd pob diwrnod yn rhoi cyfleoedd cynhyyrfus newydd i ni. Yn y defosiwn saith diwrnod hwn, mae aelodau o staff YouVersion yn helpu i gymhwyso gwirioneddau o Air Duw i beth bynnag rwyt yn ei wynebu heddiw. Mae yna lun adnod i bob defosiwn dyddiol i'th helpu i rannu beth mae Duw yn ei ddweud wrthot ti.

Dod o hyd i Heddwch
10 Diwrnod
Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i dawelwch newydd i'r meddwl, fydd yn cynnig yr arfau sydd eu hangen i ddatrys gofidiau'r gorffennol, i wynebu pryderon y presennol, a lleddfu pryderon am y dyfodol.