Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Y Salmau 103:12
Coda a Dos Ati
5 Diwrnod
Mae pobl yn aml yn dweud, “Rho dy feichiau trwm i’r Arglwydd.” Wyt ti byth yn meddwl tybed: Sut mae gwneud hynny? Mae drygioni'r byd yn teimlo'n rhy drwm. Ac er dy fod yn dymuno llewyrchu golau Iesu, rwyt ti'n meddwl tybed sut olwg sydd arno pan fyddi di'n cael trafferth gweld y golau dy hun. Mae'r defosiwn hwn yn edrych ar sut y gallwn fod yn oleuadau i Iesu hyd yn oed pan fydd ein byd ein hunain yn teimlo'n dywyll.
Pam fod Duw yn fy ngharu?
5 Diwrnod
Cwestiynau - Mae rhain yn codi bob amser yng nghyswllt Duw. Wrth ystyried y gymdeithas sydd yn dwyn cymhariaeth drwy'r adeg dŷn ni’n cael ein hunain yn gofyn, "Pam mae Duw yn fy ngharu?" Neu hyd yn oed, "Sut all Duw fy ngharu?" Yn ystod y cynllun hwn byddi'n dod wyneb yn wyneb â'r hyn sydd gan 26 o ddarnau o'r Beibl i'w ddweud am gariad diamod Duw tuag atat.
Iesu: Baner ein Buddugoliaeth
7 Diwrnod
Pan fyddwn yn dathlu'r Pasg dŷn ni'n dathlu'r fuddugoliaeth fwyaf mewn hanes. Drwy farwolaeth Iesu a'i atgyfodiad. gorchfygodd am byth bŵer pechod a'r bedd, a'r holl oblygiadau oedd yn dilyn, a dewisodd rannu; r fuddugoliaeth hynny gyda ni. Ar y penwythnos Pasg hwn, gad i ni dreiddio i mewn i rai o'r `cadarnleoedd orchfygwyd ganddo, myfyrio ar y frwydr drosom, a'i foli fel Baner ein Buddugoliaeth.