Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Mathew 6:30
![Yr hyn mae'r Tad yn ddweud](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F18910%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Yr hyn mae'r Tad yn ddweud
3 Diwrnod
Mae meddyliau’r Tad o gariad tuag atat gymaint mwy nag ydy’r tywod ar lan y môr. Ti ydy ei annwyl blentyn, ac mae wedi’i blesio yn llwyr ynot ti. Mae’r defosiwn hwn yn wahoddiad iti ddod ar draws natur berffaith, anhygoel dy Dad nefol. Yn ei gariad, nid oes ymdrech na braw, oherwydd yr wyt yng nghledr ei law.
![Popeth dw i ei Angen](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F22851%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Popeth dw i ei Angen
3 Diwrnod
Mae Duw wedi mynd o'n blaen ac mae'n ein hamddiffyn o'r ôl. Mae e wedi delio gydag ein brwydrau eisoes. Mae e'n amddiffyn yr ochr gudd. Dydy digwyddiadau annisgwyl ddim yn peri syndod iddo. Bydd y defosiwn 3 diwrnod manwl hwn yn dy adael wedi dy annog yn y gwirionedd mai Duw yw darparwr yr union ddogn, yr union fesuriad, ar gyfer dy fywyd.
![Poeni am Ddim](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F29446%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Poeni am Ddim
3 Diwrnod
Mae gofid yn lleidr o'n hamser, ein hegni, a'n hedd. Felly pam dŷn ni'n ei wneud? Yn y defosiwn 3 diwrnod hwn, byddwn yn edrych ar bryder, pam dŷn ni’n ei wneud, a sut y gallwn roi'r gorau iddi.
![Clywed o'r Nefoedd: Gwrando am yr Arglwydd mewn Bywyd Dyddiol](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F18577%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Clywed o'r Nefoedd: Gwrando am yr Arglwydd mewn Bywyd Dyddiol
5 Diwrnod
Mae'r Arglwydd yn fyw ac yn weithgar heddiw, ac mae'n siarad â phob un o'i blant yn uniongyrchol. Ond weithiau, gall fod yn anodd ei weld a'i glywed. Trwy archwilio stori taith un dyn tuag at ddeall llais Duw yn slymiau Nairobi, byddi'n dysgu sut beth yw ei glywed a'i ddilyn.
![Cyfarwyddyd Dwyfol](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F3670%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Cyfarwyddyd Dwyfol
7 Diwrnod
Bob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n dod yn arbenigwr ar wneud y dewisiadau hynny? Yn y Cynllun Beibl Cyfarwyddyd Dwyfol, mae'r hoff awdur y New York Times, a Uwch-Weinidog Life Church, Craig Groeschel, yn dy annog gyda saith egwyddor o'i lyfr 'Divine Direction', i'th helpu i ddod o hyd i ddoethineb Duw ar gyfer dy benderfyniadau dyddiol. Darganfydda'r cyfeiriad ysbrydol sydd ei angen arnat i fyw stori sy'n anrhydeddu Duw, y byddi di wrth dy fodd yn ei hadrodd.
![Torri'n rhydd o Gymhariaeth: Defosiwn 7 niwrnod gan Anna Light](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F11737%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Torri'n rhydd o Gymhariaeth: Defosiwn 7 niwrnod gan Anna Light
7 Diwrnod
Rwyt yn gwybod fod Duw'n cynnig bywyd mwy cyflawn na'r un rwyt yn ei fyw, ond y gwir amdani yw, mae cymhariaeth yn dy ddal nôl rhag mynd i'r lefel nesaf. Yn y cynllun darllen hwn mae Anna Light yn dadorchuddio mewnwelediadau fydd yn chwalu'r caead sy'n cuddio dy alluoedd, a'th helpu i fyw y bywyd cyflawn mae Duw wedi'i gynllunio ar dy gyfer
![Taith Di-bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F13407%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Taith Di-bryder
7 Diwrnod
Mewn tymor prysur adeg y Nadolig mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo straen a phryder o fewn perthynas f=deuluol, penderfyniadau brysiog, a disgwyliadau siomedig. Felly dos yn dy flaen. Pwylla a dechrau'r cynllun Life.Church hwn a sylweddola fod y pwysau dŷn ni'n ei deimlo ddim tr hyn ofynnodd Duw i ni ei gario. Beth am beidio pryderu? Gad i ni fynd ar daith di-bryder.
![Mynd ar ôl y Foronen](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F14957%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Mynd ar ôl y Foronen
7 Diwrnod
Dŷn ni i gyd yn awchus am rywbeth. Fel arfer rhywbeth sydd tu hwnt i'n cyrraedd - gwell job, cartref mwy cysurus, y teulu perffaith, cymeradwyaeth eraill. onid yw hyn yn feichus? Oes yna well ffordd? I ddarganfod os oes edrych ar hwn sef Cynllun Beiblaidd Newydd gan Life.Church, sydd yn cynnwys cyfres negeseuon y Parch. Craig Groeschel, Chasing Carrots.
![Yn Bryderus am Ddim](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F16022%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Yn Bryderus am Ddim
7 diwrnod
Beth os oes yna ffordd arall i frwydro'n erbyn y pryderon diddiwedd sy'n dy gadw'n effro drwy'r nos? Mae gorffwys go iawn ar gael - yn nes nac wyt ti'n feddwl. Ffeiria panig gyda heddwch gyda'r Cynllun Beibl 7 niwrnod hwn gan Life Church, sy'n mynd gyda chyfres negeseuon Peter Groeschel, Anxious for Nothing.
![Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F44485%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial
7 Diwrnod
Efallai nad ydyn ni bob amser yn ei weld na'i deimlo, ond mae Duw bob amser gyda ni... hyd yn oed pan fyddwn yn mynd trwy bethau anodd. Yn y cynllun hwn, mae Amy LaRue, Cydlynydd Finding Hope, yn sgwennu o'r galon am frwydr ei theulu ei hun â chaethiwed a sut y torrodd llawenydd Duw drwodd yn eu cyfnod tywyllaf.
!['Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn Pechod](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F12779%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
'Rewire your Heart' (Dargyfeirio dy Galon): 10 diwrnod i frwydro yn erbyn Pechod
10 Diwrnod
Mae llawer o Gristnogion yn credu mai’r unig ffordd i frwydro yn erbyn pechod yw bod yn benderfynol a chodi uwchlaw temtasiwn. Ond fedri di ddim ymladd pechod â'th feddwl; rhaid i ti ei ymladd â'th calon. Yn seiliedig ar y llyfr 'Rewire Your Heart', bydd yr olwg deg diwrnod hwn ar rai o’r adnodau pwysicaf am dy galon yn dy helpu i ddarganfod sut i frwydro yn erbyn pechod trwy ganiatáu i’r Efengyl ddargyfeirio dy galon.
![Rhoi iddo e dy Bryder](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F48882%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Rhoi iddo e dy Bryder
10 Diwrnod
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.
![Y cynllun darllen gwell](/_next/image?url=https%3A%2F%2F%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2Fhttps%3A%2F%2Fs3.amazonaws.com%2Fyvplans%2F229%2F640x360.jpg&w=1920&q=75)
Y cynllun darllen gwell
28 Diwrnod
Wyt ti'n teimlo fel dy fod wedi dy lethu, yn anfodlon, ac yn sownd mewn rhigol? Wyt ti'n hiraethu am fywyd gwell o ddydd i ddydd? Gair Duw yw'r canllaw i ddyddiau gwell. Yn ystod y cynllun hwn o 28 niwrnod, byddi'n darganfod ffyrdd o fyw bywyd da i fyw y math o fywyd da mae duw am i ti ei gael.