Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Mathew 6:13
Dy Gamau Cyntaf
5 Diwrnod
Rwyt ti wedi gwneud penderfyniad i ddilyn Iesu, felly beth nesaf? Nid yw'r cynllun hwn yn rhestr gynhwysfawr o bopeth a ddaw gyda'r penderfyniad hwnnw, ond bydd yn dy helpu i gymryd dy gamau cyntaf.
Gweddïau Iesu
5 Diwrnod
Dŷn ni’n sylweddoli pwysigrwydd cyfathrebu â'n gilydd a mae' perthynas â Duw yn ddieithriad. Mae Duw yn hiraethu i ni siarad ga e drwy weddi - disgyblaeth roedd Iesu ei Fab ei Hun yn ei ddilyn. Yn y cynllun hwn byddi'n dysgu o esiampl Iesu a byddi'n cael dy herio i gamu allan o brysurdeb bywyd a phrofi drosot dy hun y nerth ac arweiniad mae gweddi'n ei gynnig.
Yr Adduned
6 Diwrnod
Yn y Cynllun Beibl Life.Church hwn mae chwe cwpl yn sgwennu am chwe adduned priodas wnaethon nhw ddim eu dweud yn swyddogol wrth yr allor. Yr addunedau hyn o baratoi, blaenoriaeth, ymlid, partneriaeth, purdeb a gweddi yw'r addunedau sy'n gwneud i briodasau weithio ymhell heibio'r briodas ei hun. P'un a ydych chi'n briod neu ddim ond yn meddwl amdano, mae'n bryd gwneud yr adduned
Tanio: Arweiniad Syml i Weddi Hyderus
6 Diwrnod
Rhodd ydy gweddi, cyfle anhygoel i fod mewn perthynas â'n Tad Nefol. Yn y cynllun 6 diwrnod hwn, byddwn yn darganfod beth wnaeth Iesu ddysgu i ni am weddi, a chael ein hysbrydoli i weddïo’n gyson a hyderus.
Mynd ar ôl y Foronen
7 Diwrnod
Dŷn ni i gyd yn awchus am rywbeth. Fel arfer rhywbeth sydd tu hwnt i'n cyrraedd - gwell job, cartref mwy cysurus, y teulu perffaith, cymeradwyaeth eraill. onid yw hyn yn feichus? Oes yna well ffordd? I ddarganfod os oes edrych ar hwn sef Cynllun Beiblaidd Newydd gan Life.Church, sydd yn cynnwys cyfres negeseuon y Parch. Craig Groeschel, Chasing Carrots.
Gweddïau Peryglus
7 Diwrnod
Wyt ti wedi blino chwarae hi'n saff gyda ffydd? Wyt ti'n barod i wynebu dy ofnau, adeiladu dy ffydd, a rhyddhau dy botensial? Bydd y Cynllun Beibl saith diwrnod hwn gan Craig Groeschel; gweinidog Life.Church; allan o'i lyfr 'Dangerous Prayers', yn dy herio i weddïo'n beryglus - achos doedd dilyn Iesu erioed i fod yn ddiogel.
Gwneud lle ar gyfer yr hyn sy'n bwysig: 5 Arferiad Ysbrydol ar gyfer y Grawys
7 Diwrnod
Y Grawys: Tymor o 40 diwrnod o fyfyrdod ac edifeirwch. Mae’n syniad da, ond sut olwg sydd ar ymarfer y Garawys mewn gwirionedd? Dros y 7 diwrnod byddi'n darganfod pum arferiad ysbrydol y gelli di ddechrau eu gwneud yn ystod y Grawys i baratoi dy galon ar gyfer Sul yr Atgyfodiad - a thu hwnt.
Gweddi'r Arglwydd
8 Diwrnod
Ymunwch â J.John ar astudiaeth wyth diwrnod ar Weddi’r Arglwydd, y ddysgeidiaeth hynod ddwys a chymwynasgar honno a roddwyd gan Iesu ar sut y dylem weddïo.
Dod i Deyrnasu
15 Diwrnod
Dŷn ni wedi clywed bod Iesu yn cynnig “bywyd i’r eithaf” a dŷn ni’n dyheu am y profiad hwnnw. Dŷn ni eisiau'r bywyd hwnnw sydd yr ochr arall i newid. Ond pa fath o newid sydd ei angen arnom ni? A sut mae mynd ati i newid y broses? Yn Dod i Deyrnasu byddi di’n archwilio ffordd newydd o fyw'r bywyd wyneb i waered a thu mewn tu allan y mae Duw yn ein gwahodd iddo.
Gweddi
21 niwrnod
Dysgwch sut i weddïo'n well, gan edrych ar weddïau'r saint a geiriau Iesu ei hun. Cewch eich ysbrydoli i ddod â'ch gweddïau bob dydd at Dduw, gydag amynedd a dyfalbarhad. Edrychwch ar esiamplau o weddïau gwag, hunan bwysig a'u cymharu gyda gweddïau syml y pur o galon. Daliwch ati i weddïo.
Y cynllun darllen gwell
28 Diwrnod
Wyt ti'n teimlo fel dy fod wedi dy lethu, yn anfodlon, ac yn sownd mewn rhigol? Wyt ti'n hiraethu am fywyd gwell o ddydd i ddydd? Gair Duw yw'r canllaw i ddyddiau gwell. Yn ystod y cynllun hwn o 28 niwrnod, byddi'n darganfod ffyrdd o fyw bywyd da i fyw y math o fywyd da mae duw am i ti ei gael.