Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Josua 1:8
Llwybr Duw i Lwyddiant
3 Diwrnod
Mae pawb yn chwilio am lwyddiant, ond does fawr ddim yn dod o hyd iddo oherwydd mae’r maen nhw’n ei ddilyn yw dealltwriaeth ffug o'r hyn y mae'n ei olygu i fyw bywyd llwyddiannus. I ddod o hyd i lwyddiant go iawn mae angen i ti osod dy olygon ar ddiffiniad Duw o'r hyn y mae'n ei olygu. Gad i'r awdur poblogaidd Tony Evans ddangos iti’r llwybr i lwyddiant y deyrnas go iawn, a sut y gelli di ddod o hyd iddo.
Gwneud amser i Orffwys
5 diwrnod
Yn aml, mae gorweithio eithafol a phrysurdeb cyson yn cael ei gymeradwyo yn ein byd, ac mae'n gallu bod yn sialens i ymlacio. Er mwyn gweithredu ar ein rolau a'n cynlluniau yn effeithiol, mae'n rhaid i ni ddysgu gorffwys neu fydd gynnon ni ddim byd ar ôl i'w gyfrannu at y rhai dŷn ni'n eu caru ac at y nodau dŷn ni wedi'u gosod. Gad i ni dreulio'r pum diwrnod nesaf yn dysgu am orffwys a sut y gallwn gynnwys yr hyn dŷn ni wedi'i ddysgu yn ein bywydau.
Mae Haearn yn Miniogi Haearn: Mentora Life-to-Life® yn yr Hen Destament
5 Diwrnod
Wyt ti’n hiraethu am “wneud disgyblion sy’n gwneud disgyblion,” i ddilyn mandad Iesu yn y Comisiwn Mawr (Mathew 28:18-20)? Os felly, falle dy fod wedi darganfod ei bod yn anodd ffeindio rhai i fod yn esiampl dda ar gyfer y broses hon. Esiampl pwy elli di ei dilyn? Sut olwg sydd ar wneud disgyblion mewn bywyd bob dydd? Edrychwn i mewn i’r Hen Destament i weld sut y buddsoddodd pump o ddynion a merched mewn eraill, Bywyd i Fywyd (Life-to-Life®).
Gwneud lle ar gyfer yr hyn sy'n bwysig: 5 Arferiad Ysbrydol ar gyfer y Grawys
7 Diwrnod
Y Grawys: Tymor o 40 diwrnod o fyfyrdod ac edifeirwch. Mae’n syniad da, ond sut olwg sydd ar ymarfer y Garawys mewn gwirionedd? Dros y 7 diwrnod byddi'n darganfod pum arferiad ysbrydol y gelli di ddechrau eu gwneud yn ystod y Grawys i baratoi dy galon ar gyfer Sul yr Atgyfodiad - a thu hwnt.
Dewrder
1 Wythnos
Dysgwch beth mae'r Beibl yn ei ddweud am ddewrder a hyder. Mae Cynllun Darllen "Dewrder " yn rhoi hyder i gredinwyr trwy eu hatgoffa o bwy ydyn nhw yng Nghrist a'u safle yn Ei Deyrnas. Wrth berthyn i Dduw, mae gennych ryddid i ddod ato yn uniongyrchol. Darllenwch eto - neu efallai darllenwch am y tro cyntaf - yr addewidion sy'n dweud eich bod yn blant i Dduw.
Rhoi iddo e dy Bryder
10 Diwrnod
P'un ai os wyt ti'n canmol Duw am ei ras neu'n brwydro â'th ffydd, bydd Duw bob amser yn dy gyfarfod â'i gariad digyfnewid, ei wirionedd a'i gryfder. Cama i mewn i gymuned o ferched sy'n ymroddedig i dyfu'n agosach at Dduw ac at ei gilydd trwy drystio ei fod e, ac y bydd e bob amser yn ddigon.