Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 10:28
I Surrender: Defosiynau Ysbrydoledig wedi'u sgwennu gan Garcharorion
4 Diwrnod
Mae'r Beibl yn llyfr o brynedigaeth, rhyddid, a gobaith. O fewn ei dudalennau mae cymeriadau deinamig a llawn angerdd - dynion a merched wedi torri yn chwilio am atebion. Mewn ffordd, maen nhw'n debyg iawn i'r carcharorion presennol a chyn-garcharorion a ysgrifennodd y defosiynau rwyt ti ar fin eu darllen. Gobeithio y cei dy galonogi a'th ysbrydoli gan leisiau o'r eglwys sydd wedi’u caethiwo.. Boed i'w tystiolaeth nhw ein rhyddhau ni i gyd.
Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid Duw
7 Diwrnod
Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i roi cyfeiriad i'n bywydau, a dim ond distawrwydd dŷn ni'n ei glywed. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn siarad â'th galon am sut i symud yn Ewyllys Duw pan fydd hi’n ymddangos fod Duw yn dawel.
Gobaith yn y Tywyllwch
12 Diwrnod
Mae'r cynllun Beibl hwn ar gyfer unrhyw un sydd mewn poen ac ddim yn deall pam. Os wyt ti wedi colli rywbeth, rywun, neu mae dy ffydd wedi'i brofi i'r eithaf, yna, mae'r Cynllun Beibl hwn o lyfr gweinidog Life Church, Craig Groeschel, Hope in the Dark, o bosib, yn union beth sydd angen arnat ti. Os wyt ti eisiau credu, ond ddim yn siŵr sut, mae hwn ar dy gyfer di.