Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Ioan 10:27
I Surrender: Defosiynau Ysbrydoledig wedi'u sgwennu gan Garcharorion
4 Diwrnod
Mae'r Beibl yn llyfr o brynedigaeth, rhyddid, a gobaith. O fewn ei dudalennau mae cymeriadau deinamig a llawn angerdd - dynion a merched wedi torri yn chwilio am atebion. Mewn ffordd, maen nhw'n debyg iawn i'r carcharorion presennol a chyn-garcharorion a ysgrifennodd y defosiynau rwyt ti ar fin eu darllen. Gobeithio y cei dy galonogi a'th ysbrydoli gan leisiau o'r eglwys sydd wedi’u caethiwo.. Boed i'w tystiolaeth nhw ein rhyddhau ni i gyd.
Arfogaeth Duw
5 Diwrnod
Drwy dydd, pob dydd, mae rhyfel cuddiedig yn rhuo o'th gwmpas - anweledig, di-glywed, ond eto i'w deimlo drwy bob agwedd o'th fywyd. Mae gelyn ffyddlon dieflig yn ceisio achosi hafog gyda phopeth sydd o bwys i ti: P dy galon, dy feddwl, dy briodas, dy blant, perthynas ag eraill, dy wydnwch, dy freuddwydion, dy dynged. Ond mae ei gynllun yn dibynnu ar dy ddal heb i ti wybod ac yn ddiarfog. Os wyt wedi blino cael dy wthio o gwmpas a chael dy ddal ar hap. mae'r cynllun hwn i ti. Mae'r gelyn yn methu ='n druenus pan yn cwrdd dynes sydd yn barod. Mae Arfogaeth Duw, gymaint mwy na disgrifiad Beiblaidd o restr y crediniwr, yn gynllun ar gyfer gweithredu a datblygu strategaeth bersonol i sicrhau buddugoliaeth.
Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid Duw
7 Diwrnod
Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i roi cyfeiriad i'n bywydau, a dim ond distawrwydd dŷn ni'n ei glywed. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn siarad â'th galon am sut i symud yn Ewyllys Duw pan fydd hi’n ymddangos fod Duw yn dawel.