Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Genesis 50:20
Dioddefaint
4 Diwrnod
Mae dioddefaint yn rhan annatod o'r ffydd Gristnogol - 2 Timotheus 3:12. Bydd eich agwedd at ddioddefaint yn newid wrth dreulio amser gyda Duw a myfyrio yn ei Air. Wrth ddysgu'r adnodau canlynol medrant eich cymell i feithrin agwedd dduwiol tuag at ddioddefaint. Gadewch i'ch bywyd gael ei drawsnewid trwy ddysgu'r Ysgrythur. Am sustem gynhwysol o ddysgu'r Ysgrythur ewch i www.MemLok.com
Rho Ystyr i'th Waith
4 Diwrnod
Bydd y rhan fwyaf ohonom yn treulio yn treulio 50 y cant o'n bywyd fel oedolyn mewn gwaith. Dŷn ni eisiau gwybod bod yna bwrpas i'n gwaith. Ond mae straen, gofynion a helbulon yn achos i ni edrych ar waith fel rywbeth caled - rywbeth i ddygymod ag e. Bydd y cynllun darllen hwn yn dy helpu i adnabod y pŵer sydd gennyt i ddewis pwrpas positif i dy waith sydd wedi'i wreiddio mewn ffydd
Byw Wedi Newid: Yn y Flwyddyn Newydd
4 Diwrnod
Gyda phob Blwyddyn Newydd daw cyfle newydd am ddechrau newydd. Paid gadael i hon fod yn flwyddyn arall sy'n dechrau gyda phenderfyniadau na fyddi di’n eu cadw. Bydd y cynllun 4 diwrnod hwn yn dy arwain wrth fyfyrio ac yn rhoi persbectif newydd i ti fel y gelli wneud hon y flwyddyn orau eto.
Newid mewn Bywyd: Pwrpas
5 Diwrnod
Wyt ti erioed wedi meddwl beth wnaeth Duw dy greu di i wneud, neu gofyn iddo pam wyt ti wedi bod drwy rai profiadau penodol? Ces ti dy greu yn unigryw ar gyfer rôl bwrpasol y gelli di yn unig ei chyflawni. Hyd yn oed os wyt ti'n teimlo ar goll, neu os wyt ti'n betrusgar i symud, bydd y cynllun 5 diwrnod hwn yn dy helpu i drystio Duw, fel ei fod yn gallu dy arwan at dy bwrpas.
Maddau i'r rheiny sy'n ein brifo
7 Diwrnod
Pa un ai ydyn ni'n dioddef yn emosiynol neu'n dioddef anafiadau corfforol, maddeuant yw conglfaen y bywyd Cristnogol. Cafodd Iesu Grist bob math o brofiadau anheg ac anghyfiawn hyd at farwolaeth. Ac eto'n ei awr olaf fe wnaeth e fadau i'r lleidr ar y groes arall oedd yn ei sarhau, yn ogystal â'r dienyddwyr.