Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Genesis 28:15
Bydd lonydd: Canllaw Syml i Amseroedd Tawel
5 Diwrnod
Bydd lonydd. I rai, mae'r ddau air syml hyn yn wahoddiad i'w groesawu i arafu. I eraill, maen nhw'n teimlo'n amhosib, allan o gyrraedd yn ein byd cynyddol swnllyd, neu'n rhy anodd i'w gynnal. Mae Brian Heasley yn dangos sut nad oes angen i ni fod yn statig er mwyn i’n calonnau fod yn llonydd, a sut hyd yn oed yng nghanol bywyd llawn, prysur, y gallwn dreulio amser tawel gyda Duw.
Eistedd mewn Llonyddwch: 7 Diwrnod i aros y tu mewn i Addewid Duw
7 Diwrnod
Mae yna adegau y mae gynnon ni addewid gan Dduw, ond dŷn ni ddim yn gweld ein bywyd yn cyd-fynd â'r addewid y mae Duw wedi'i roi i ni. Neu mae yna adegau dŷn ni'n cyrraedd croesffordd yn ein bywyd, gan ddibynnu ar Dduw i roi cyfeiriad i'n bywydau, a dim ond distawrwydd dŷn ni'n ei glywed. Bydd y defosiwn 7 diwrnod hwn yn siarad â'th galon am sut i symud yn Ewyllys Duw pan fydd hi’n ymddangos fod Duw yn dawel.
Sgyrsiau gyda Duw
12 Diwrnod
Mae Sgyrsiau gyda Duw yn drochiant llawen i mewn i fywyd agosach o weddi, gan bwysleisio ffyrdd mwy ymarferol o glywed llais Duw. Mae Duw eisiau i ni fwynhau sgwrs ddi-ddiwedd ag e drwy ein bywyd cyfan - sgwrs sy'n gwneud gwahaniaeth ym mhob cyfeiriad, perthnasoedd a phwrpas. Mae'r cynllun hwn wedi'i lenwi â storïau tryloyw a phersonol am gyrraedd calon Duw. Mae e'n ein caru ni!