Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Actau 4:18
Un Gair Fydd yn Newid dy Fywyd
4 Diwrnod
Mae UN GAIR yn dy helpu i symleiddio dy fywyd trwy ganolbwyntio ar UN GAIR yn unig am y flwyddyn gyfan. Mae symlrwydd darganfod gair sydd gan Dduw ar dy gyfer yn ei wneud yn gatalydd ar gyfer newid bywyd. Mae annibendod a chymhlethdod yn arwain at oedi a pharlysu, tra bod symlrwydd a ffocws yn arwain at lwyddiant ac eglurder. Mae’r defosiwn 4 diwrnod hwn yn dangos iti sut i dorri drwodd i graidd dy fwriad ar gyfer gweledigaeth un gair ar gyfer y flwyddyn.
Y Dyn ar y Groes Ganol: Cynllun darllen 7 diwrnod
7 Diwrnod
Mae bron pawb yn cytuno bod y byd hwn wedi torri. Ond beth os oes ateb? Mae’r cynllun Pasg saith niwrnod hwn yn dechrau gyda phrofiad unigryw’r lleidr ar y groes ac yn ystyried pam mai’r unig ateb gwirioneddol i doriad yw dienyddiad dyn diniwed: Iesu, Mab Duw.
Ufudd-dod
2 Pythefnos
Dywedodd Iesu y byddai’r rhai sy’n ei garu yn gwrando ar ei ddysgeidiaeth. Mae bod yn ufudd yn bwysig i Dduw - does dim gwahaniaeth beth yw’r gost bersonol. Mae rhaglen ddarllen “Ufudd-dod” yn dangos beth sydd gan yr Ysgrythur i’w ddweud am ufudd-dod. Gwelwn sut gall meithrin agwedd meddwl didwyll a thrugarog ddwyn bendithion, rhyddid a mwy i’n bywydau.