Cynlluniau Darllen am ddim a Defosiynau yn ymwneud â Actau 2:44
Cyfarwyddyd Dwyfol
7 Diwrnod
Bob dydd byddwn yn gwneud dewisiadau sy'n siapio stori ein bywyd. Sut olwg fyddai ar dy fywyd pe byddet ti'n dod yn arbenigwr ar wneud y dewisiadau hynny? Yn y Cynllun Beibl Cyfarwyddyd Dwyfol, mae'r hoff awdur y New York Times, a Uwch-Weinidog Life Church, Craig Groeschel, yn dy annog gyda saith egwyddor o'i lyfr 'Divine Direction', i'th helpu i ddod o hyd i ddoethineb Duw ar gyfer dy benderfyniadau dyddiol. Darganfydda'r cyfeiriad ysbrydol sydd ei angen arnat i fyw stori sy'n anrhydeddu Duw, y byddi di wrth dy fodd yn ei hadrodd.
Pan fydd Ffydd yn Methu: 10 Diwrnod o ddod o Hyd i Dduw yng Nghysgod Amheuaeth
10 Diwrnod
Mae brwydro gyda ffydd ac amheuaeth yn gallu bod yn hynod o unig ac ynysig. Mae rhai’n dioddef mewn tawelwch, tra bod eraill yn cilio o’u ffydd yn gyfan gwbl, gan dybio bod amheuaeth yn anghydnaws â ffydd. Mae Dominic Done yn credu bod hyn yn drasig ac yn hollol anghywir. Mae e’n defnyddio’r Ysgrythur a llenyddiaeth i ddadlau, nid yn unig fod cwestiynu yn normal ond ei fod yn aml yn llwybr tuag at ffydd gyfoethog a bywiog. Cymer olwg ar ffydd ac amheuaeth yn y cynllun 10 diwrnod hwn.