Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Genesis 4

4
1 Genedigaeth, celfyddyd, a chrefydd Cain ac Abel. 8 Lladd Abel. 11 Melltithio Cain. 17 Enoch a’r ddinas gyntaf. 19 Lamech a’i ddwy wraig. 25 Genedigaeth Seth, 26 ac Enos.
1Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais ŵr gan yr Arglwydd. 2A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef #4:2 Heb. Hebel.Abel; ac Abel oedd #4:2 Heb. borthwr.fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio’r ddaear. 3A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r Arglwydd. 4Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei #4:4 ddiadell.ddefaid, ac o’u braster hwynt. A’r Arglwydd a #Heb 11:4edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm: 5Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A dicllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynepryd ef. 6A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynepryd? 7Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: atat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef. 8A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac #Mat 23:35; 1 Ioan 3:12; Jwdas 11a’i lladdodd ef.
9A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi? 10A dywedodd Duw, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd #Heb 12:24; Dat 6:10yn gweiddi arnaf fi o’r ddaear. 11Ac yr awr hon melltigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di. 12Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear. 13Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy #4:13 nghosbedigaeth nag y gallwyf ei oddef.anwiredd nag y gellir ei faddau. 14Wele, gyrraist fi heddiw oddi ar wyneb y ddaear, ac o’th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd. 15A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am hynny y dielir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A’r Arglwydd a osododd nod ar Cain, rhag i neb a’i caffai ei ladd ef.
16A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhir Nod, o’r tu dwyrain i Eden. 17Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar #4:17 Heb. Chanoch.Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ôl enw ei fab, Enoch. 18Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehwiael, a Mehwiael a genhedlodd Methwsael, a Methwsael a genhedlodd #4:18 Heb. Lemech.Lamech.
19A Lamech a gymerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Ada, ac enw yr ail Sila. 20Ac Ada a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail. 21Ac enw ei frawd ef oedd Jwbal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ. 22Sila hithau a esgorodd ar Tubal‐cain, #4:22 Heb. hogwr.gweithydd pob cywreinwaith pres a haearn: a chwaer Tubal‐cain ydoedd Naama. 23A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Ada a Sila, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandewch fy lleferydd; canys mi a #4:23 Heb. laddwn.leddais ŵr i’m harcholl, a llanc i’m clais. 24Os Cain a ddielir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.
25Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a #Pen 5:3alwodd ei enw ef Seth: Oherwydd Duw (eb hi) a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef. 26#Pen 5:6I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y #4:26 Heb. dechreuasant eu galw eu hun ar enw yr Arglwydd.dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd.

Právě zvoleno:

Genesis 4: BWM1955C

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas