Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Rhufeiniaid 1:26-32

Rhufeiniaid 1:26-32 CJW

Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus; canys hyd y nod eu benywod á newidiasant yr arfer naturiol i’r hon sydd yn erbyn natur. Yn gyffelyb, y gwrywod hefyd, gàn adael yr arfer naturiol o’r fenyw, á ymlosgent yn eu hawydd iddeu gilydd, gwrywod gyda gwrywod, yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd ddyledus. A megys nad oedd gymeradwy ganddynt gydnabod Duw, Duw á’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl diddirnadol, i wneuthur y pethau nid ydynt weddaidd; wedi eu llenwi â phob annghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, dryganiaeth; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynhen, twyll, drygarferion; yn hustingwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddyfeiswyr drygau, yn anufyddion i rieni, yn ddigywilydd, yn dòrwyr ammod, yn ddiserch, yn annghymmodlawn, yn annhrugarogion. Yn rai, èr eu bod yn deall yn eglur ddeddf Duw, (bod y sawl à wnant y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth,) y sy nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, ond hefyd yn canmol y rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.