Rhufeiniaid 1:13-17
Rhufeiniaid 1:13-17 CJW
Eithr ni fỳnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, èr i mi gael fy lluddio hyd yn hyn; fel y cawn ryw ffrwyth yn eich plith chwithau, fel yn mhlith y Cenedloedd ereill. Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. Am hyny, parod ydwyf, hyd y mae ynof, i gyhoeddi y newydd da i chwithau hefyd, y rhai ydych yn Rhufain. Canys nid oes arnaf gywilydd o’r efengyl; oblegid gallu Duw yw hi èr iechydwriaeth, i bob un à sydd yn credu; i’r Iuddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr. Oblegid ynddi hi y dadguddir cyfiawnâad Duw drwy ffydd, èr ffydd; megys y mae yn ysgrifenedig, “Y cyfiawn á fydd byw drwy ffydd.”