Ioan 18:33-40
Ioan 18:33-40 CJW
Yna Pilat à ddychwelodd i’r dadleudy, a gwedi iddo alw Iesu, á ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? Iesu á atebodd, Ai o honot dy hun yr wyt ti yn dywedyd hyn, ai ereill á ddywedasant i ti am danaf fi? Pilat á adatebodd, Ai Iuddew ydwyf fi? Dy genedl dy hun, ïe, yr archoffeiriaid, á’th draddodasant i mi, Beth á wnaethost ti? Iesu á atebodd, Fy nheyrnas i nid yw o’r byd hwn. Pe o’r byd hwn y buasai fy nheyrnas i, fy ymlynwyr á ymladdasent fel na’m traddodid i’r Iuddewon; ond fy nheyrnas i nid yw oddi yma. Yna y dywedodd Pilat, Brenin gàn hyny wyt ti? Iesu á atebodd, Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Brenin wyf fi. Er mwyn hyn ym ganed; ac èr mwyn hyn y daethym i’r byd, fel y tystiolaethwn i’r gwirionedd. Pwybynag sydd o’r gwirionedd, sydd yn gwrandaw arnaf fi. Pilat á ofynodd iddo, Beth yw gwirionedd? a gwedi iddo ddywedyd felly, efe á aeth allan drachefn at yr Iuddewon, ac á ddywedodd wrthynt, O’m rhan i, nid wyf yn cael dim bai yn y dyn hwn. Ond, gàn ei bod yn ddefod i mi ollwng i chwi un yn rydd àr y pasc, a fỳnwch chwi i mi ollwng yn rydd i chwi Frenin yr Iuddewon? Yna y llefasant oll, gàn ddywedyd, Nid hwn, ond Barabbas. A Barabbas oedd ysbeiliwr.