Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Ioan 18:1-11

Ioan 18:1-11 CJW

Gwedi i Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe á aeth gyda ’i ddysgyblion dros afon Cidron; lle yr oedd gardd, i’r hon yr aeth efe a’i ddysgyblion. A Iuwdas hefyd, yr hwn á’i bradychodd ef, á adwaenai y lle; oblegid mynych y cyrchasai Iesu yno gyda ’i ddysgyblion. Yna Iuwdas, wedi iddo gael y cadgordd, a swyddogion gàn yr archoffeiriaid a’r Phariseaid, á ddaeth yno â llygyrn, a ffaglau, ac arfau. Eithr Iesu, yr hwn á wyddai bob peth à oedd àr ddyfod arno, á aeth allan, ac á ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? Hwy á atebasant iddo, Iesu y Nasarethiad. Iesu á adatebodd, Myfi yw. A Iuwdas, yr hwn á’i bradychodd ef, oedd gyda hwynt. Cygynted ag y dywedasai efe, Myfi yw, hwy á aethant yn wysg eu cefnau, ac á syrthiasant i lawr. Am hyny efe á ofynodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? Hwythau á ddywedasant, Iesu y Nasarethiad. Iesu á atebodd, Mi á ddywedais i chwi mai myfi yw. Os myfi, gàn hyny, yr ydych yn ei geisio, gadewch i’r rhai hyn fyned ymaith. Fel hyn y gwireddwyd yr hyn à ddywedasai efe, O’r rhai à roddaist i mi, ni chollais i yr un. Yna Simon Pedr, yr hwn oedd ganddo gleddyf, á’i tỳnodd ef, ac á darawodd was yr archoffeiriad, ac á dòrodd ymaith ei glust ddëau ef. Ac enw y gwas oedd Malchus. Yna Iesu á ddywedodd wrth Bedr, Dod y cleddyf yn y wain. Y cwpan à roddes y Tad i mi, onid yfaf ef?