Ioan 17:1-5
Ioan 17:1-5 CJW
Pan orphenasai Iesu yr ymadrawdd hwn, efe á ddywedodd, gàn godi ei lygaid i’r nef, Y Tad, daeth yr awr; gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau; megys y rhoddaist iddo awdurdod àr bob dyn, fel, i’r rhai oll à roddaist iddo, y rhoddai efe fywyd tragwyddol. A hyn yw y bywyd tragwyddol, dy adnabod di yr unig wir Dduw, ac Iesu y Messia, dy Apostol. Mi á’th ogoneddais di àr y ddaiar; mi á orphenais y gwaith à roddaist i mi iddei wneuthur. Ac yr awrbon, O Dad, gogonedda di fyfi yn dy wydd dy hun, â’r gogoniant oedd i mi gyda thi cyn bod y byd.