Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Ioan 13:31-35

Ioan 13:31-35 CJW

Gwedi iddo fyned allan, Iesu á ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y Dyn, a Duw á ogoneddwyd drwyddo ef. Os gogoneddwyd Duw drwyddo ef, Duw hefyd á’i gogonedda yntau drwyddo ei hun, a hyny yn ebrwydd. Fy mhlant, nid oes i mi yn awr ond ychydig amser i fod gyda chwi. Chwi á’m ceisiwch, a’r hyn à ddywedais wrth yr Iuddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn ei ddywedyd yn awr wrthych chwithau. Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, àr garu o honoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, àr garu o honoch chwithau bawb eich gilydd. Wrth hyn y gwybydd pawb mai dysgyblion i mi ydych; os bydd gènych gariad at eich gilydd.