Ioan 11:1-6
Ioan 11:1-6 CJW
Ac un Lazarus, o Fethania, pentref Mair a’i chwaer Martha, oedd yn glaf. (Y Fair hòno à eneiniodd yr Arglwydd ag enaint, ac á sychodd ei draed ef â’i gwallt, oedd a’i brawd Lazarus yn glaf.) Y chwiorydd, gan hyny, á ddanfonasant i fynegi i Iesu: Feistr, wele! y mae yr hwn sy hoff genyt ti, yn glaf. Iesu gwedi clywed hyn, á ddywedodd, Ni bydd y clefyd hwn yn angeuol; ond èr gogoniant i Dduw, fel y gogonedder Mab Duw drwyddo. A hoff oedd gàn Iesu Fartha, a’i chwaer, a Lazarus. Pan glybu efe, gàn hyny, ei fod ef yn glaf, Iesu á arosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod.