Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 4

4
1-12A thra yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid, cadben gwarchodlu y deml, a’r Saduwceaid, á ddaethant arnynt hwy; yn flin ganddynt am eu bod hwy yn dysgu y bobl, ac yn cyhoeddi, drwy Iesu, yr adgyfodiad o feirw. A hwy á osodasant ddwylaw arnynt, ac á’u dodasant mewn dalfa hyd dranoeth; canys yr oedd hi yn awr yn hwyr. Eithr llawer o’r rhai à glywsent y gair, á gredasant; a rhifedi y gwyr oedd yn nghylch pumm mil. A thranoeth eu llywodraethwyr, eu henuriaid, a’u hysgrifenyddion, á ymgynnullasant yn Nghaersalem: ac Annas, yr archoffeiriad, a Chaiaphas; Iöan hefyd, ac Alecsander, a chymaint ag oedd o genedl yr archoffeiriad. A gwedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy á ofynasant, Drwy ba awdurdod, neu yn mha enw y gwnaethoch chwi hyn? Yna Pedr, yn llawn o’r Ysbryd Glan, á ddywedodd wrthynt, Benaethiaid y bobl, a henuriaid Israel, od ydys yn ein holi ni heddyw yn nghylch y lles à wnaed i’r dyn diallu, pa fodd yr iachawyd ef; bydded hysbys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai drwy enw Iesu Grist o Nasareth, yr hwn á groeshoeliasoch chwi, yr hwn á gyfododd Duw o feirw; ïe, drwy hwnw y mae hwn yn sefyll yn iach gèr eich bron chwi. Hwn yw y maen à lyswyd genych chwi yr adeiladwyr, yr hwn á wnaed yn ben i’r gongl: a nid oes iechydwriaeth yn neb arall; canys nid oes enw arall dàn y nef wedi ei roddi yn mhlith dynion, drwy yr hwn y gallwn ni fod yn gadwedig.
13-22A phan welsant hyfder Pedr ac Iöan, a deall mai dynion anllythyrenog a chyffredin oeddynt, hwy á ryfeddasant, ac adgofio á wnaethant iddynt hwy fod gydag Iesu. Ac, wrth weled y dyn à iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim iddei ddywedyd yn erbyn hyny. Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa, hwy á ymgynghorasant â’u gilydd, gàn ddywedyd, Beth á wnawn ni i’r dynion hyn? oblegid yn ddiau wneuthur arwydd hynod drwyddynt hwy, sydd amlwg i holl breswylwyr Caersalem; a nis gallwn ni ei wadu. Er hyny, fel nas taener yn mhellach yn mhlith y bobl, bygythiwn hwynt yn y modd llymaf, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn. A gwedi eu galw hwynt, hwy á orchymynasant iddynt na lefarent a na ddysgent mwyach yn enw Iesu. Eithr Pedr ac Iöan gàn ateb iddynt, á ddywedasant, Ai cyfiawn yw yn ngolwg Duw, ufyddâu i chwi yn hytrach nag i Dduw, bernwch chwi: oblegid nis gallwn ni beidio dywedyd y pethau à welsom ac á glywsom. A gwedi eu bygwth drachefn, hwy á’u gollyngasant ymaith, oblegid y bobl, heb gael dim iddeu cosbi hwynt am dano; canys yr oedd yr holl bobl yn gogoneddu Duw am yr hyn à wnaethid; oblegid y dyn, àr yr hwn y gwnaethid y wyrth yma o iachâad, oedd uwchlaw deugain oed.
23-31A hwythau, gwedi eu gollwng ymaith, á ddaethant at eu cyfeillion eu hunain, ac á fynegasant yr holl bethau à ddywedasai yr archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt. Hwythau pan glywsant, o un fryd á gyfodasant eu llef at Dduw, ac á ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw y Duw yr hwn á wnaethost y nef a’r ddaiar, a’r mor, ac oll à sydd ynynt: yr hwn, drwy enau dy was Dafydd, á ddywedaist, “Paham y terfysgodd y cenedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer? Breninoedd y ddaiar á ymosodasant, a’r penaethiaid á ymgasglasant yn nghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei eneiniog ef.” Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon, yn erbyn dy santaidd Fab Iesu, yr hwn á eneiniaist ti, yr ymgynnullodd Herod a Phontius Pilat, gyda ’r cenedloedd, a phobl Israel, i wneuthur pa bethau bynag á ragluniodd dy law a’th gynghor di eu gwneuthur. Ac yn awr, Arglwydd, edrych àr eu bygythion hwy; a chaniatâa i’th weision draethu dy air di gyda phob rhyddineb; tra fyddech yn estyn dy law i iachâu, ac y gwneler arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy santaidd Fab Iesu. A thra yr oeddynt yn gweddio, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a dwy á lanwyd oll o’r Ysbryd Glan, ac á lefarasant air Duw gyda rhyddineb.
32-35Ac yr oedd calon ac enaid y lliaws credinwyr yn un: a ni alwai neb ddim à feddai yn eiddo ei hunan; ond yr oedd pob peth yn gyffredin yn eu plith. A’r Apostolion, drwy nerth mawr, á roddasant allan eu tystiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu: a charedigrwydd mawr oedd yn eu plith hwynt oll. Nid oedd chwaith un anghenus yn eu plith hwy; oblegid cynnifer ag oedd berchen tiroedd neu dai, á’u gwerthasant, ac á ddygasant werth y pethau à werthasid, ac á’i gosodasant wrth draed yr Apostolion; a chyfranwyd i bob un yn ol ei angen.
DOSBARTH IV.
Marwolaeth Ananias, a Sapphira, ei Wraig.
36-37A Ioses, yr hwn gàn yr Apostolion á gyfenwid Barnabas, (yr hyn o’i gyfieithu, á arwyddocâa, Mab Cynghor,) yn Lefiad, a Chypriad o enedigaeth, a thir ganddo, á’i gwerthodd, ac á ddyg yr arian, ac á’i gosododd wrth draed yr Apostolion. Eithr rhyw wr, a’i enw Ananias,

Právě zvoleno:

Gweithredoedd 4: CJW

Zvýraznění

Sdílet

Kopírovat

None

Chceš mít své zvýrazněné verše uložené na všech zařízeních? Zaregistruj se nebo se přihlas