Gweithredoedd 4:23-31
Gweithredoedd 4:23-31 CJW
A hwythau, gwedi eu gollwng ymaith, á ddaethant at eu cyfeillion eu hunain, ac á fynegasant yr holl bethau à ddywedasai yr archoffeiriaid a’r henuriaid wrthynt. Hwythau pan glywsant, o un fryd á gyfodasant eu llef at Dduw, ac á ddywedasant, O Arglwydd, tydi yw y Duw yr hwn á wnaethost y nef a’r ddaiar, a’r mor, ac oll à sydd ynynt: yr hwn, drwy enau dy was Dafydd, á ddywedaist, “Paham y terfysgodd y cenedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer? Breninoedd y ddaiar á ymosodasant, a’r penaethiaid á ymgasglasant yn nghyd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei eneiniog ef.” Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon, yn erbyn dy santaidd Fab Iesu, yr hwn á eneiniaist ti, yr ymgynnullodd Herod a Phontius Pilat, gyda ’r cenedloedd, a phobl Israel, i wneuthur pa bethau bynag á ragluniodd dy law a’th gynghor di eu gwneuthur. Ac yn awr, Arglwydd, edrych àr eu bygythion hwy; a chaniatâa i’th weision draethu dy air di gyda phob rhyddineb; tra fyddech yn estyn dy law i iachâu, ac y gwneler arwyddion a rhyfeddodau drwy enw dy santaidd Fab Iesu. A thra yr oeddynt yn gweddio, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo; a dwy á lanwyd oll o’r Ysbryd Glan, ac á lefarasant air Duw gyda rhyddineb.