Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 4:13-22

Gweithredoedd 4:13-22 CJW

A phan welsant hyfder Pedr ac Iöan, a deall mai dynion anllythyrenog a chyffredin oeddynt, hwy á ryfeddasant, ac adgofio á wnaethant iddynt hwy fod gydag Iesu. Ac, wrth weled y dyn à iachasid yn sefyll gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim iddei ddywedyd yn erbyn hyny. Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned allan o’r gynghorfa, hwy á ymgynghorasant â’u gilydd, gàn ddywedyd, Beth á wnawn ni i’r dynion hyn? oblegid yn ddiau wneuthur arwydd hynod drwyddynt hwy, sydd amlwg i holl breswylwyr Caersalem; a nis gallwn ni ei wadu. Er hyny, fel nas taener yn mhellach yn mhlith y bobl, bygythiwn hwynt yn y modd llymaf, na lefaront mwyach wrth un dyn yn yr enw hwn. A gwedi eu galw hwynt, hwy á orchymynasant iddynt na lefarent a na ddysgent mwyach yn enw Iesu. Eithr Pedr ac Iöan gàn ateb iddynt, á ddywedasant, Ai cyfiawn yw yn ngolwg Duw, ufyddâu i chwi yn hytrach nag i Dduw, bernwch chwi: oblegid nis gallwn ni beidio dywedyd y pethau à welsom ac á glywsom. A gwedi eu bygwth drachefn, hwy á’u gollyngasant ymaith, oblegid y bobl, heb gael dim iddeu cosbi hwynt am dano; canys yr oedd yr holl bobl yn gogoneddu Duw am yr hyn à wnaethid; oblegid y dyn, àr yr hwn y gwnaethid y wyrth yma o iachâad, oedd uwchlaw deugain oed.