Gweithredoedd 3:1-10
Gweithredoedd 3:1-10 CJW
Ac yn nghylch yr amser hwnw, Pedr ac Iöan á aethant i fyny i’r deml, àr yr awr weddi, sef y nawfed. A rhyw wr cloff o’i enedigaeth, á ddygwyd, yr hwn á ddodent beunydd wrth borth y deml, yr hwn á elwid Prydferth, i ofyn elusen gàn y rhai à elent i fewn i’r deml; yr hwn, pan welodd efe Bedr ac Iöan àr fedr myned i fewn i’r deml, á ddeisyfodd gael elusen. Eithr Pedr, gydag Iöan, gàn sylwi yn graff arno, á dywedodd, Edrych arnom ni. Yntau á ddaliodd sylw arnynt, gàn ddysgwyl cael rhywbeth ganddynt. Eithr Pedr á ddywedodd, Arian ac aur nid oes gènyf; ond yr hyn sy genyf, yr wyf yn ei roddi i ti: yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia. A chàn ei gymeryd ef erbyn ei ddeheulaw, efe á’i cyfododd ef i fyny; ac yn ebrwydd ei draed ef a’i fferau á nerthwyd. A chàn neidio i fyny, efe á safodd, ac á rodiodd, ac á aeth gyda hwynt i’r deml, dàn rodio, a neidio, a moli Duw. A’r holl bobl á’i gwelsant ef yn rhodio, ac yn moli Duw; a hwy á’i hadwaenent mai yr un dyn ydoedd ag á eisteddai am elusen wrth borth Prydferth y deml, ac á lanwyd o ryfeddod a synedigaeth am yr hyn à ddygwyddasai iddo.