Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Gweithredoedd 2:42-47

Gweithredoedd 2:42-47 CJW

Ac yr oeddynt yn parâu yn athrawiaeth, yn nghymdeithas, yn nhòriad torth, ac yn ngweddiau yr Apostolion. Ac ofn á ddaeth ár bob enaid, a llawer o wyrthiau ac arwyddion á wnaethwyd gàn yr Apostolion. A’r rhai à gredent oll oeddynt yn nghyd, a phob peth ganddynt yn gyffredin. Hwy á werthasant hefyd eu meddiannau a’u da, ac á’u rhànasant i bob un yn ol ei angen. Hefyd, yr oeddynt beunydd yn parâu yn unfryd yn y deml; a chàn dòri bara o dŷ i dŷ, hwy á gymerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon, gàn foli Duw, a chael rhadgarwch gàn yr holl bobl; a’r Arglwydd á chwanegodd beunydd y rhai cadwedig at y gynnulleidfa.