Gweithredoedd 16:13-34
Gweithredoedd 16:13-34 CJW
Ac àr ddydd y Seibiaeth, ni á aethom allan o’r ddinas i lan yr afon, lle yn ol arfer, yr oedd gweddifa; a gwedi eistedd o honom, ni á lefarasom wrth y gwragedd, y rhai oedd wedi ymgasglu yno. A rhyw wraig, a’i henw Lydia, un yn gwerthu porphor, o ddinas Thyatira, yr hon oedd yn addoli Duw, á glywodd yr ymadrawdd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal àr y pethau á lefarid gàn Baul. A gwedi ei throchi hi a’i theulu, hi á ddymunodd arnom, gàn ddywedyd, Os barnasoch fy mod i yn ffyddlawn i’r Arglwydd, deuwch i fewn i’m tŷ, ac aroswch yno. A hi á’n cymhellodd ni. A dygwyddodd fel yr oeddym yn myned i’r weddifa, i ryw lances gyfarfod â ni â chanddi ysbryd dewiniaeth, yr hon oedd yn peri llawer o elw iddei meistraid drwy ddewinio: hon á ddylynodd Baul a ninnau, ac á lefodd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw Goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iechydwriaeth. A hyn á wnaeth hi dros ddyddiau lawer. Eithr Paul yn flin ganddo, á droes ac á ddywedodd wrth yr ysbryd, Yr wyf yn gorchymyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan o honi. Ac efe á aeth allan yr awr hòno. A phan welodd ei meistraid hi fyned gobaith eu helw hwynt ymaith, hwy á ddaliasant Baul a Silas, ac á’u llusgasant hwy i’r farchnadfa, at y llywiawdwyr: a gwedi iddynt eu dwyn hwy at gadfridogion y fyddin, hwy á ddywedasant, Y mae y dynion hyn, y rhai ydynt Iuddewon, yn tratherfysgu ein dinas ni; ac yn dysgu defodau, y rhai nid yw rydd i ni eu derbyn, a ni yn Rhufeinwyr. A’r lliaws á gododd i fyny yn nghyd yn eu herbyn hwy; a’r cadfridogion gàn rwygo eu dillad, á orchymynasant eu curo hwynt â gwiail. A gwedi rhoddi gwïalenodiau lawer iddynt, hwy á’u taflasant i garchar, gàn orchymyn i geidwad y carchar eu cadw hwy yn ddiogel. Yr hwn, wedi derbyn y fath orchymyn caeth, á’u bwriodd hwynt i’r carchar nesaf i mewn, ac á wnaeth eu traed hwy yn sicr yn y cyffion. Ond àr hanner nos, Paul a Silas wedi gweddio, á ganasant emyn i Dduw: a’r carcharorion á’u clywsant hwy. Ac yn ddisymwth, bu daiargryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau y carchar: ac yn ebrwydd yr holl ddrysau á agorwyd, a rhwymau yr holl garcharorion á aethant yn rydd. A phan ddeffroes ceidwad y carchar, a chanfod drysau y carchar yn agored, efe á dynodd ei gleddyf, ac á amcanodd ei ladd ei hun; gàn dybied ffoi o’r carcharorion ymaith. Eithr Paul á lefodd â llef uchel, gàn ddywedyd, Na wna i ti dy hun ddim niwed, canys yr ydym ni yma oll. A efe á alwodd am oleu, ac á ruthrodd i fewn; a mewn dychryn, efe á syrthiodd i lawr gèr bron Paul a Silas; a gwedi eu dwyn hwynt allan, efe á ddywedodd, O feistraid, beth sy raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig? A hwy á ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, á chadwedig fyddi, ti a’th deulu. A hwy á draethasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef. Ac efe á’u cymerodd hwy, yr awr hòno o’r nos, ac á olchodd eu briwiau; ac efe á drochwyd, a’r eiddo oll yn y màn. A gwedi iddo eu dwyn hwynt iddei dŷ, efe á osododd y bwrdd gèr eu bron hwy: a chan gredu yn Nuw, yn nghyd a’i holl deulu, efe á lawenychodd yn ddirfawr.