Gweithredoedd 14:19-28
Gweithredoedd 14:19-28 CJW
Ond daeth yno Iuddewon o Antiochia ac Iconium, ac á ddarbwyllasant y lliaws; a gwedi llabyddio Paul, hwy á’i llusgasant ef allan o’r ddinas, gàn dybied ei fod ef wedi marw. Ond, fel yr oedd y dysgyblion wedi ymgasglu o’i amgylch ef, efe à gyfododd, ac à aeth i’r ddinas; a thranoeth efe á ymadawodd, efe a Barnabas, i Dderbe. A gwedi iddynt gyhoeddi yr efengyl yn y ddinas hòno, ac ynnill llawer o ddysgyblion, hwy á ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia, gàn gadarnâu eneidiau y dysgyblion; gàn eu cynghori i aros yn y ffydd, a thystiolaethu, mai drwy lawer o orthrymderau y mae yn raid i ni fyned i fewn i deyrnas Duw. A gwedi gosod iddynt henuriaid, yn mhob cynnulleidfa, gwedi gweddio àr Dduw gydag ympryd; hwy á’u gorchymynasant hwynt i’r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo. A gwedi iddynt dramwy drwy Bisidia, hwy á ddaethant i Bamphylia. A gwedi traethu y gair yn Mherga, hwy á aethant i waered i Attala. Ac oddyno hwy á fordwyasant i Antiochia, o’r lle y gorchymynasid hwynt i rad Duw, i’r gwaith à gyflawnasent. A gwedi iddynt ddyfod yno, a chasglu y gynnulleidfa yn nghyd, adrodd á wnaethant pa bethau á wnaethai Duw gyda hwynt, a’r modd yr agorasai efe ddrws ffydd i’r Cenedloedd. Ac yno yr arosasant hwy dros hir amser gyda ’r dysgyblion.