Gweithredoedd 10:34-47
Gweithredoedd 10:34-47 CJW
Yna Pedr á agorodd ei enau, ac á ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb; ond yn mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef ac yn gweithredu cyfiawnder, sy gymeradwy ganddo ef. Dyma y genadwri à ddanfonodd efe at blant Israel; gàn gyhoeddi newydd da tangnefedd drwy Iesu Grist, yr hwn yw Arglwydd pawb oll. Chychwi á wyddoch y son à fu drwy holl Iuwdea, yr hwn á ddechreuodd o Alilea, gwedi y trochiad à bregethodd Iöan, am Iesu o Nasareth; y modd yr eneiniodd Duw ef â’r Ysbryd Glan, ac â nerth; yr hwn á gerddai o amgylch gàn wneuthur daioni, ac iachâu pawb à orthrymid gàn y diafol; oblegid yr oedd Duw gydag ef. Ac yr ydym ni yn dystion o’r holl bethau à wnaeth efe yn ngwlad yr Iuddewon, ac yn Nghaersalem; yr hwn á laddasant, drwy ei grogi àr bren. Hwn á gyfododd Duw y trydydd dydd, ac á adawodd iddo ddyfod yn amlwg; nid i’r bobl oll, ond i dystion à ragbènodwyd gàn Dduw, sef i ni, y rhai á fwytasom ac á yfasom gydag ef, wedi ei adgyfodi ef o feirw. Ac efe á orchymynodd i ni gyhoeddi i’r bobl, a thystiolaethu mai efe yw yr hwn à arbènodwyd gàn Dduw yn Farnwr byw a meirw. I hwn y mae yr holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb à gredo ynddo ef faddeuant pechodau, drwy ei enw ef. A Phedr eto yn llefaru y geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glan àr bawb à oedd yn clywed y gair: a’r rhai o’r enwaediad, à oeddynt yn credu, cynnifer à ddaethent gyda Phedr, á sỳnasant am dywallt dawn yr Ysbryd Glan àr y Cenedloedd hefyd: oblegid yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru mewn amryfal ieithoedd, ac yn gogoneddu Duw. Yna yr atebodd Pedr, A all neb luddias dwfr, fel na throcher y rhai hyn, y rhai á dderbyniasant yr Ysbryd Glan, fel ninnau?