Beth, gàn hyny, á ddywedwn ni? ai, Paräwn yn wastad mewn pechod, fel yr amlâo rhad? Na ato Duw. A ninnau gwedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? Oni wyddoch chwi, am gynnifer o honom ag á drochwyd i Grist Iesu, ein trochi ni iddei farwolaeth ef? Claddwyd ni, gàn hyny, gydag ef drwy y trochiad i’r farwolaeth hòno; fel megys ag y cyfodwyd Crist o feirw drwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb buchedd. Canys os gwnaed ni yn gydblanigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef; felly y byddwn hefyd i gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef. Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, èr mwyn dirỳmu corff pechod, fel rhagllaw na wasanaethom bechod: canys y mae yr hwn á fu farw, gwedi ei ryddâu oddwrth bechod. Ac os buom feirw gyda Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef. Gan wybod nad yw Crist, wedi ei gyfodi oddwrth y meirw, yn marw mwyach; nid arglwyddiaetha marwolaeth arno ef mwyach; canys fel y bu efe farw, efe á fu farw unwaith dros bechod; a fel y mae yn byw, byw y mae dros Dduw. Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod; eithr yn fyw i Dduw, drwy Grist Iesu. Na theyrnased pechod, gàn hyny, yn eich corff marw chwi, drwy ufyddâu o honoch iddo. A na roddwch eich aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod; eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megys rhai byw oddwrth y meirw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.