Logo YouVersion
Ikona vyhledávání

Oblíbené biblické verše z Gweithredoedd 23

A’r nos ganlynol, yr Arglwydd á safodd gerllaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymer gysur; canys megys y tystiolaethaist y pethau am danaf fi yn Nghaersalem, felly y mae yn raid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd. A phan aeth hi yn ddydd, rhai o’r Iuddewon, wedi llunio cyfrad, á’u rhwymasant eu hunain â diofryd; gàn ddywedyd, na fwytaent, a nad yfent, nes iddynt ladd Paul. Ac yr oedd mwy na deugain o’r rhai à wnaethent y cynghrair hwn. A hwy á ddaethant at yr archoffeiriaid a’r henuriaid, ac á ddywedasant, Ni a’n rhwymasom ein hunain ag Anathema ddifrifol, nad archwaethem ddim hyd oni laddem Baul; yn awr, gàn hyny, hysbyswch chwi, gyda’r Sanhedrim, i’r cadben, bod iddo ei ddwyn ef i waered atoch chwi, fel pe byddech am chwilio yn fanylach, i’r hyn à berthyn iddo; a ninnau, cyn y delo efe yn agos atoch ydym barod iddei ladd ef. Ond mab chwaer Paul, wedi clywed am y cynllwyn, á ddaeth, a gwedi myned i fewn i’r castell, á fynegodd i Baul. A Phaul, wedi galw un o’r canwriaid ato, á ddywedodd, Dwg y gwr ieuanc hwn at y cadben, oblegid y mae ganddo beth iddei fynegi iddo. Yntau, gàn hyny, á’i cymerodd, ac á’i dyg at y cadben, ac á ddywedodd, Paul, y carcharor, á’m galwodd i ato, ac á ddymunodd arnaf ddwyn y gwr ieuanc yma atat ti, yr hwn sy ganddo beth iddei ddywedyd wrthyt. A’r cadben á’i cymerodd ef erbyn ei law, a gwedi myned ag ef o’r neilldu, á ofynodd iddo, Beth yw yr hyn sy genyt iddei fynegi i mi? Ac efe á ddywedodd, Yr Iuddewon á gyttunasant â’u gilydd i ofyn i ti, ddwyn Paul y fory i waered i’r Sanhedrim, fel pe baent àr fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef. Ond na ddarbwyller di ganddynt; canys y mae yn cynllwyn iddo fwy na deugain o honynt, y rhai á roisant ddiofryd, i beidio na bwyta nac yfed, nes y lladdont ef; ac yn awr y maent hwy yn barod, yn dysgwyl yr addewid hon genyt ti. Y cadben, gàn hyny, á ollyngodd y gwr ieuanc ymaith, gydag archeb, Gofala na ddywedych i neb, amlygu o honot y pethau hyn i mi. Ac efe á alwodd ato ddau o’r canwriaid, ac á ddywedodd, Parotowch ddau gant o filwyr, i fyned i Gaisarea; a seithdeg o wŷr meirch, a deugant o ffỳnwewŷr, erbyn y drydedd awr o’r nos: a darparwch ysgrubliaid i osod Paul arnynt, a dygwch ef yn ddiogel at Ffelics, y rhaglaw. Ac efe á ysgrifenodd lythyr, cynnwysion yr hwn sydd yn yr eilun yma:

Bezplatné plány čtení Bible a zamyšlení související s Gweithredoedd 23