Marc 2
2
Iacháu’r claf o’r parlys
1Wedi iddo ddod yn ôl ymhen rhai dyddiau i Gapernaum aeth y si ar led ei fod gartref. 2Daeth cymaint ynghyd fel nad oedd lle hyd yn oed o gylch y drws. A thra roedd yn pregethu’r gair iddyn nhw, 3dyma ddod â dyn yn glaf o’r parlys ato, 4a chan na allai’r pedwar a oedd yn ei gario ei ddwyn at yr Iesu oherwydd y dyrfa, dyma’r rheiny’n mynd a chodi darn o do’r ystafell roedd ef ynddi, a gwneud twll, a gollwng i lawr y gwely y gorweddai’r claf arno, 5Pan welodd yr Iesu eu ffydd nhw, dywedodd wrth y claf, “Fy mab, mae dy bechodau di wedi eu maddau.”
6Roedd rhai o athrawon y Gyfraith yn eistedd yno ac yn meddwl yn ddistaw bach, 7“Pam y mae hwn yn siarad fel hyn? Cablu yw peth fel hyn. Pwy ond Duw yn unig all faddau pechodau?”
8Fe ddeallodd yr Iesu ar unwaith eu bod yn ymresymu felly, a gofynnodd iddyn nhw, “Pam rych chi’n meddwl y ffordd yna? 9P’un sy hawsaf, dweud wrth y claf, ‘Mae dy bechodau di wedi eu maddau’, neu ddweud wrtho, ‘Cod, gafael yn dy wely a cherdda’?” 10Ond er mwyn i chi wybod bod gan Fab y Dyn awdurdod ar y ddaear i faddau pechodau dywedodd wrth y dyn a barlyswyd, 11“Rwy’n dweud wrthyt, Cod, gafael yn dy wely, a dos adref.”
12Ac fe gododd, gafaelodd ar unwaith yn ei wely a cherdded ymaith yng ngŵydd pawb nes iddyn nhw synnu a gogoneddu Duw, a dweud, “Welsom ni erioed y fath beth.”
Galw Lefi
13Aeth yr Iesu allan eto i lan y llyn. Daeth yr holl dyrfa ato, a dysgodd ef nhw yno. 14Ar ei ffordd fe welodd Lefi fab Alffeus wrth ei waith yn swyddfa’r Dreth, a dywedodd wrtho, “Dilyn fi.”
Cododd yntau a’i ganlyn. 15Wedi hynny, pan oedd ar bryd bwyd yn nhŷ Lefi roedd amryw o gasglwyr trethi a throseddwyr yn bwyta gydag ef a’i ddisgyblion, oherwydd roedd ei ddilynwyr yn niferus. 16Wrth sylwi arno’n bwyta gyda’r cwmni hwn dywedodd athrawon y Gyfraith o blith y Phariseaid wrth ei ddisgyblion, “Paham y mae’n bwyta gyda dynion sy’n casglu’r dreth a throseddwyr?”
17Clywodd yr Iesu hyn, ac meddai wrthyn nhw, “Nid ar bobl iach mae angen meddyg, ond ar bobl afiach; dod wnes i i wahodd troseddwyr, nid y ‘cyfiawn’.”
Gwrthod ymprydio
18Roedd disgyblion Ioan a’r Phariseaid yn ymprydio, a daeth rhywrai ’mlaen a gofyn iddo, “Pam y mae disgyblion Ioan a disgyblion y Phariseaid yn ymprydio a’th ddisgyblion di yn gwrthod?”
19Atebodd yr Iesu, “A all ffrindiau’r priodfab ymprydio tra mae’r priodfab gyda nhw? Tra bydd ef gyda nhw allan nhw ddim meddwl am ymprydio. 20Fe ddaw dydd pan ddygir y priodfab oddi wrthyn nhw, a’r amser hwnnw y byddan nhw’n ymprydio. 21Nid oes neb yn gwnïo darn o frethyn newydd ar hen ddilledyn; os gwna, fe fydd y clwt newydd yn ei dynnu ei hun oddi wrth yr hen, a’r rhwyg yn waeth nag erioed. 22Ac nid oes neb yn arllwys gwin newydd i hen boteli crwyn. Os gwna fe rwyga’r gwin y poteli, a dyna’r gwin a’r poteli wedi eu difetha. Poteli newydd, felly, i win newydd.”
Torri’r rheolau ynglŷn â’r Dydd Gorffwys
23Ac ar y Dydd Gorffwys, roedd yr Iesu’n mynd drwy’r meysydd ŷd, ac wrth gerdded dyma’i ddisgyblion yn dechrau tynnu tywysennau. 24Meddai’r Phariseaid wrtho, “Edrych. Pam maen nhw’n gwneud ar y Dydd Gorffwys yr hyn na ddylen nhw?”
25Atebodd yntau, “Ddarllensoch chi ddim beth wnaeth Dafydd pan oedd ef a’i gymdeithion yn newynu, a heb ddim i’w fwyta — 26sut yr aeth ef i mewn i dŷ Dduw yn nyddiau’r Prif Offeiriad Abiathar, a bwyta’r bara cysegredig na ddylai neb ond yr offeiriaid ei fwyta, a’i roi hefyd i’r rhai oedd gydag ef?” 27Ac meddai wrthyn nhw, “Fe wnaed y Dydd Gorffwys er mwyn dyn ac nid dyn er mwyn y Dydd Gorffwys. 28Mae Mab y Dyn yn Arglwydd, felly, hyd yn oed ar y Dydd Gorffwys.”
دیاریکراوەکانی ئێستا:
Marc 2: FfN
بەرچاوکردن
هاوبەشی بکە
لەبەرگرتنەوە

دەتەوێت هایلایتەکانت بپارێزرێت لەناو ئامێرەکانتدا> ? داخڵ ببە
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971