Mathew 27
27
Y bore wedyn
1Pan ddaeth y bore, fe ddaeth y prif offeiriaid i gyd a henuriaid y bobl at ei gilydd i ymgynghori sut i ladd yr Iesu. 2Yna, wedi ei rwymo, fe aethon nhw ag ef a’i drosglwyddo i Beilat, y rhaglaw.
Jwdas yn edifarhau
3Pan welodd Jwdas y bradwr fod Iesu wedi ei gondemnio, fe edifarhaodd a mynd â’r deg ar hugain darn o arian yn ôl i’r prif offeiriaid a’r henuriaid, 4a dweud, “Rydw i wedi pechu, wedi bradychu gwaed diniwed.”
“Beth sy a fynno hynny â ni?” medden nhw. “Dy fusnes di yw hynny.”
5Yna fe daflodd Jwdas yr arian ar lawr yn y Deml a mynd allan a’i grogi’i hun.
6Fe gododd y prif offeiriaid yr arian, ac medden nhw, “Thâl hi ddim i roi y rhain yng nghronfa’r Deml; oherwydd pris gwaed ydyn nhw.”
7Felly, wedi ymgynghori, eu defnyddio nhw i brynu Cae’r Crochenydd yn fynwent i estroniaid wnaethon nhw. 8Dyna pam y galwyd y cae hwnnw ‘Maes y Gwaed’ hyd heddiw. 9Ac felly fe ddaeth geiriau’r proffwyd Jeremeia’n wir pan ddywedodd, “Fe gymerson nhw’r deg ar hugain darn o arian, pris yr hwn y gosodwyd pris arno, canys dyna’r pris a roddodd yr Israeliaid arno, 10a’u rhoi am faes y crochenydd, fel y cyfarwyddodd yr Arglwydd fi.”
Crist gerbron Peilat
11Bellach mae Iesu’n sefyll gerbron y rhaglaw; ac meddai’r rhaglaw wrtho, “Ai ti yw Brenin yr Iddewon?”
“Ti sydd yn ei ddweud,” meddai Iesu; 12ond i gyhuddiadau’r prif offeiriaid a’r henuriaid nid atebodd ef ddim. 13Ac meddai Peilat wrtho, “Wyt ti ddim yn clywed yr holl dystiolaeth ’ma maen nhw’n ei ddwyn yn d’erbyn di?”
14Ond, er syndod mawr i’r rhaglaw, ni ddywedodd ef hyd yn oed un gair mewn atebiad.
15Roedd yn arferiad yn ystod yr ŵyl i’r rhaglaw ollwng yn rhydd i’r bobl un o’r carcharorion o’u dewis eu hunain. 16Ar y pryd roedd yn y ddalfa garcharor amlwg ei ddrygioni o’r enw Iesu Barabbas. 17Felly, pan ddaethon nhw ato gyda’i gilydd, gofynnodd Peilat iddyn nhw, “P’un fynnwch chi i mi’i ryddhau ichi — Iesu Barabbas neu Iesu a elwir Crist?”
18Oblegid fe wyddai ef o’r gorau mai o genfigen y daethon nhw â’r Iesu o’i flaen.
19Tra roedd Peilat yn eistedd ar sedd y barnwr daeth neges iddo oddi wrth ei wraig: “Paid â gwneud dim byd i’r dyn dieuog yna; fe gefais i freuddwyd ofnadwy amdano ef neithiwr.”
20Yn y cyfamser, roedd y prif offeiriaid a’r henuriaid wedi perswadio’r dyrfa i weiddi am ryddhau Barabbas a rhoi Iesu i farwolaeth. 21Felly pan ofynnodd y rhaglaw, “P’un o’r ddau rydych chi am i mi ei ollwng yn rhydd i chi?”, “Barabbas,” oedd yr ateb.
22“Beth, felly, wnaf fi â Iesu a elwir Crist?” meddai Peilat; ac ag un llef dyma nhw’n gweiddi, “Croeshoelia ef!”
23“Ond,” meddai Peilat drachefn, “pa ddrwg wnaeth ef?” ond yn uwch y cododd eu gwaedd, “Croeshoelia ef.”
24Gwelodd Peilat nad oedd dim yn tycio, ond ei bod hi yn hytrach yn mynd yn derfysg yno; felly fe gymerodd ddŵr, a golchi’i ddwylo yng ngolwg y dyrfa, gan ddweud, “Mae fy nwylo i’n rhydd o waed y dyn hwn; eich busnes chi yw ef bellach.”
25A dyna’r bobl yn ateb ag un llef, “Bydded ei waed ef arnom ni ac ar ein plant.”
26Yna fe ollyngodd Barabbas yn rhydd iddyn nhw; ond fe orchmynnodd i’r Iesu gael ei chwipio, a’i drosglwyddo iddyn nhw i’w groeshoelio.
Ei wawdio ef a’i gamdrin
27Fe aeth milwyr y rhaglaw â Iesu i’w ben cadlys, a chasglu’r gwarchodlu i gyd o’i gwmpas. 28Yna, ei ddiosg o’i ddillad a thaflu mantell ysgariad drosto; 29ac wedi plethu coron o frigau drain, fe’i rhoeson nhw hi ar ei ben, a gwialen yn ei law dde; ac wedyn mynd ar eu gliniau o’i flaen, a’i watwar: “Henffych well, Brenin yr Iddewon!”
30Ac yna, poeri arno, a’i daro ar ei ben â’r wialen. 31Wedi gorffen eu gwawd, fe dynson nhw’r fantell oddi amdano a’i wisgo yn ei ddillad ei hun. Yna maen nhw’n ei arwain ef i ffwrdd i’w groeshoelio.
Y Croeshoelio
32Ar eu ffordd allan fe drawson nhw ar ddyn o Gyrene o’r enw Simon, a’i orfodi i gario’i groes ef.
33A phan ddaethon nhw i le a elwid Golgotha (ystyr hynny yw ‘Lle’r Benglog’), 34fe roeson nhw iddo ddracht o win wedi’i gymysgu â bustl; ond wedi iddo’i brofi, fe’i gwrthododd.
35Wedi ei hoelio ef i’r groes fe aethon nhw ati i rannu ei ddillad drwy fwrw coelbren, 36yna, eistedd i’w wylio yno. 37Uwch ei ben fe roeson nhw ar ysgrifen y cyhuddiad yn ei erbyn: “HWN YW IESU, BRENIN YR IDDEWON.”
38Roedd dau leidr pen-ffordd yn cael eu croeshoelio gydag ef, un bob ochr iddo.
39Ac roedd rhai, wrth fynd heibio, yn ei wawdio, gan ysgwyd eu pennau 40a dweud, “Ti oedd yn mynd i dynnu’r Deml yn sarn a’i hail-godi mewn tridiau, achub dy hun, os ti yw Mab Duw, a thyrd i lawr oddi ar y groes.”
41Fe wnaeth y prif offeiriaid, athrawon y Gyfraith a’r henuriaid yr un peth, ei watwar: 42“Achubodd eraill,” medden nhw, “ond ni all ei achub ei hun. Fe yw Brenin Israel, gadewch iddo ddisgyn yn awr oddi ar ei groes, ac fe gredwn ynddo. 43Rhoddodd ei ymddiriedaeth yn Nuw. Wel, ynteu, gadewch i Dduw ei achub ef nawr, os yw’n ei ddymuno. Fe ddywedodd, ond do, ‘Mab Duw ydw i’.”
44Roedd hyd yn oed y lladron oedd yn cael eu croeshoelio gydag ef yn dannod iddo’r un peth.
45Bu tywyllwch dros yr holl ddaear o ganol dydd tan dri o’r gloch y prynhawn; 46a thua thri o’r gloch fe lefodd Iesu allan,
“Eloi, Eloi, lama sabachthani?” hynny yw, “Fy Nuw, fy Nuw, paham y cefnaist arnaf fi?”
47“Mae ef yn galw am Eleias,” meddai rhai o’r rhai oedd yno pan glywson nhw hyn. 48Ar unwaith, rhedodd un ohonyn nhw, a chydio mewn ysbwng, ei drochi mewn gwin chwerw, a’i osod ar wialen, a’i roi iddo i yfed.
49“Paid!” meddai’r lleill. “Gad inni gael gweld a ddaw Eleias i’w achub ef.”
50Ond â gwaedd uchel arall, fe dynnodd Iesu ei anadl olaf.
51A dyna len y Deml yn cael ei rhwygo’n ddau o’r pen uchaf i’r godre. Bu daeargryn, a’r creigiau’n hollti 52a’r beddau’n agor, a llawer o saint Duw yn deffro o gwsg angau; 53a chan adael eu beddau, wedi’i atgyfodiad ef, fe aethon nhw i mewn i’r Ddinas Santaidd, ac fe’u gwelwyd yno gan lawer. 54A phan welodd y canwriad a’i wŷr a oedd yn gwylio Iesu y ddaeargryn a’r pethau a ddigwyddodd, fe’u llanwyd ag arswyd, ac medden nhw, “Mewn difrif calon roedd hwn yn fab i Dduw.”
55Roedd yno hefyd nifer o wragedd yn edrych o hirbell, wedi dilyn Iesu o Galilea i weini arno. 56Yn eu plith roedd Mair o Fagdala, a Mair mam Iago a Joseff, a gwraig Sebedeus.
Ei gladdu ef
57Yr hwyr hwnnw, fe ddaeth gŵr cyfoethog o Arimathea, Joseff wrth ei enw, yntau bellach yn un o ddisgyblion Iesu, 58at Beilat i ofyn am gorff Iesu; fe orchmynnodd Peilat roi’r corff iddo. 59Felly fe gymerodd Joseff y corff, ei lapio mewn lliain glân, 60a’i osod yn ei fedd newydd ef ei hun a oedd wedi’i naddu o’r graig; yna, wedi rholio carreg fawr ar draws yr agoriad, fe aeth oddi yno. 61Roedd Mair o Fagdala, a’r Fair arall, yn eistedd gyferbyn â’r bedd.
62Trannoeth, y bore ar ôl y dydd Gwener hwnnw, fe aeth y prif offeiriaid a’r Phariseaid gyda’i gilydd at Beilat; 63“Syr,” medden nhw wrtho, “mae gennym gof i’r twyllwr hwnnw ddweud pan oedd yn fyw, ‘Fe godaf ar ôl tridiau.’ 64Felly, rho orchymyn i’r bedd gael ei wneud yn ddiogel tan y trydydd dydd; neu fe all ei ddisgyblion ddod, a lladrata’r corff a dweud wrth y dyrfa, ‘Mae ef wedi codi o farw’n fyw.’ Fe fyddai’r twyll olaf hwnnw’n waeth na’r cyntaf.”
65“Cymerwch warchodlu,” atebodd Peilat, “ewch i wneud y lle mor ddiogel ag y medrwch chi.”
66Ac fe aethon nhw, a gwneud y bedd yn ddiogel drwy selio’r garreg a gadael y gwarchodlu i warchod.
دیاریکراوەکانی ئێستا:
Mathew 27: FfN
بەرچاوکردن
هاوبەشی بکە
لەبەرگرتنەوە

دەتەوێت هایلایتەکانت بپارێزرێت لەناو ئامێرەکانتدا> ? داخڵ ببە
© Cymdeithas y Beibl 1971
© British and Foreign Bible Society 1971