YouVersion Logo
Search Icon

Y Salmau 29

29
Salm. I Ddafydd.
1Rhowch i'r ARGLWYDD, fodau nefol#29:1 Neu, feibion y duwiau.,
rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant a nerth.
2Rhowch i'r ARGLWYDD ogoniant ei enw;
ymgrymwch i'r ARGLWYDD yn ysblander ei sancteiddrwydd.
3Y mae llais yr ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd;
Duw'r gogoniant sy'n taranu;
y mae'r ARGLWYDD yn uwch na'r dyfroedd cryfion!
4Y mae llais yr ARGLWYDD yn nerthol,
y mae llais yr ARGLWYDD yn ogoneddus.
5Y mae llais yr ARGLWYDD yn dryllio cedrwydd;
dryllia'r ARGLWYDD gedrwydd Lebanon.
6Gwna i Lebanon lamu fel llo,
a Sirion fel ych ifanc.
7Y mae llais yr ARGLWYDD yn fflachio'n fflamau tân.
8Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r anialwch grynu;
gwna'r ARGLWYDD i anialwch Cades grynu.
9Y mae llais yr ARGLWYDD yn gwneud i'r ewigod lydnu,
ac yn prysuro geni'r llwdn;
yn ei deml dywed pawb, “Gogoniant.”
10Y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu uwch y llifeiriant,
y mae'r ARGLWYDD wedi ei orseddu'n frenin byth.
11Rhodded yr ARGLWYDD nerth i'w bobl!
Bendithied yr ARGLWYDD ei bobl â heddwch!

Currently Selected:

Y Salmau 29: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in