YouVersion Logo
Search Icon

Barnwyr 12:5-6

Barnwyr 12:5-6 BCND

Meddiannodd Gilead y rhydau dros yr Iorddonen i gyfeiriad Effraim, a phan fyddai ffoadur o Effraim yn crefu am gael croesi, byddai dynion Gilead yn gofyn iddo, “Ai un o Effraim wyt ti?” Pe byddai hwnnw'n ateb, “Nage”, yna byddent yn dweud wrtho, “Dywed, ‘Shibboleth’.” Byddai yntau'n dweud, “Sibboleth”, gan na fedrai ynganu'n gywir. Ac wedi iddynt ei ddal, byddent yn ei ladd ger rhydau'r Iorddonen. Bu farw dwy fil a deugain o wŷr Effraim y pryd hwnnw.

Free Reading Plans and Devotionals related to Barnwyr 12:5-6