2 Brenhinoedd 22:19
2 Brenhinoedd 22:19 BCND
Am i'th galon dyneru, ac iti ymostwng o flaen yr ARGLWYDD pan glywaist fi'n dweud am y lle hwn a'i drigolion, y byddai'n ddifrod ac yn felltith, ac am iti rwygo dy ddillad ac wylo o'm blaen, yr wyf finnau wedi gwrando, medd yr ARGLWYDD.