YouVersion Logo
Search Icon

1 Cronicl 1

1
O Adda hyd Abraham
Gen. 5:1–32; 10:1–32; 11:10–26
1Adda, Seth, Enos, 2Cenan, Mahalalel, Jered, 3Enoch, Methwsela, Lamech, 4Noa, Sem, Cham a Jaffeth.
5Meibion Jaffeth: Gomer, Magog, Madai, Jafan, Tubal, Mesech, Tiras. 6Meibion Gomer: Ascenas, Riffath#1:6 Cymh. Gen. 10:3. TM, Diffath., Togarma. 7Meibion Jafan: Elisa, Tarsis, Chittim, Dodanim.
8Meibion Cham: Cus, Misraim, Put, Canaan. 9Meibion Cus: Seba, Hafila, Sabta, Raama a Sabteca. Meibion Raama: Seba a Dedan. 10Cus oedd tad Nimrod; hwn oedd y cyntaf o gedyrn y ddaear. 11Misraim oedd tad Ludim, Anamim, Lehabim, Nafftwhim, 12Pathrusim, Casluhim a Cafftorim#1:12 Cymh. Amos 9:7. TM, ar ddiwedd yr adnod., y tarddodd y Philistiaid ohonynt.
13Canaan oedd tad Sidon, ei gyntafanedig, a Heth, 14a'r Jebusiaid, yr Amoriaid, y Girgasiaid, 15yr Hefiaid, yr Arciaid, y Siniaid, 16yr Arfadiaid, y Semaniaid a'r Hamathiaid.
17Meibion Sem: Elam, Assur, Arffacsad, Lud, Aram, Us, Hul, Gether, Mesech. 18Arffacsad oedd tad Sela, a Sela oedd tad Heber. 19I Heber y ganwyd dau fab; enw un oedd Peleg, oherwydd yn ei ddyddiau ef y rhannwyd y ddaear, a Joctan oedd enw ei frawd. 20Joctan oedd tad Almodad, Seleff, Hasar-mafeth, Jera, 21Hadoram, Usal, Dicla, 22Ebal, Abimael, Seba, 23Offir, Hafila, Jobab; yr oedd y rhain i gyd yn feibion Joctan.
24Sem, Arffacsad, Sela, 25Heber, Peleg, Reu, 26Serug, Nachor, Tera, 27Abram, sef Abraham.
Disgynyddion Ismael
Gen. 25:12–16
28Meibion Abraham: Isaac ac Ismael, 29a dyma eu cenedlaethau: Nebaioth, cyntafanedig Ismael, yna Cedar, Adbeel, Mibsam, 30Misma, Duma, Massa, Hadad, Tema, 31Jetur, Naffis, Cedema. Dyma feibion Ismael.
32Yr oedd Cetura, gordderchwraig Abraham, yn fam i Simran, Jocsan, Medan, Midian, Ibac, Sua. Meibion Jocsan: Seba a Dedan. 33Meibion Midian: Effa, Effer, Enoch, Abida, Eldaa; yr oedd y rhain i gyd yn blant Cetura.
Disgynyddion Esau a Thrigolion Gwreiddiol Edom
Gen. 36:1–30
34Abraham oedd tad Isaac. Meibion Isaac: Esau ac Israel. 35Meibion Esau: Eliffas, Reuel, Jeus, Jalam, Cora. 36Meibion Eliffas: Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, Timna, Amalec. 37Meibion Reuel: Nahath, Sera, Samma, Missa. 38Meibion Seir: Lotan, Sobal, Sibeon, Ana, Dison, Eser, Disan. 39Meibion Lotan: Hori, Homam; a chwaer Lotan oedd Timna. 40Meibion Sobal: Alïan, Manahath, Ebal, Seffi, Onam. Meibion Sibeon: Aia ac Ana. 41Mab Ana: Dison. Meibion Dison: Amram, Esban, Ithran, Ceran. 42Meibion Eser: Bilhan, Safan, Jacan. Meibion Dison: Us ac Aran.
Brenhinoedd Edom
Gen. 36:31–43
43Dyma'r brenhinoedd a fu'n teyrnasu yng ngwlad Edom cyn i'r Israeliaid gael brenin: Bela fab Beor; enw ei ddinas ef oedd Dinhaba. 44Bu farw Bela, a theyrnasodd Jobab fab Sera o Bosra yn ei le. 45Bu farw Jobab, a theyrnasodd Husam o wlad y Temaniaid yn ei le. 46Bu farw Husam, a theyrnasodd Hadad fab Bedad yn ei le; ymosododd ef ar Midian yng ngwlad Moab, ac Afith oedd enw ei ddinas. 47Bu farw Hadad, a theyrnasodd Samla o Masreca yn ei le. 48Bu farw Samla, a theyrnasodd Saul o Rehoboth-ger-Ewffrates yn ei le. 49Bu farw Saul, a theyrnasodd Baal-hanan fab Achbor yn ei le. 50Bu farw Baal-hanan, a theyrnasodd Hadad yn ei le, a Pai oedd enw ei ddinas. Mehetabel ferch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.
51Bu farw Hadad; yna daeth penaethiaid ar Edom: y penaethiaid Timna, Alia, Jetheth, 52Aholibama, Ela, Pinon, 53Cenas, Teman, Mibsar, 54Magdiel, Iram; y rhain oedd penaethiaid Edom.

Currently Selected:

1 Cronicl 1: BCND

Highlight

Share

Copy

None

Want to have your highlights saved across all your devices? Sign up or sign in