YouVersion Logo
Search Icon

Marc 4:21-25

Marc 4:21-25 DAFIS

Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Os bosib bo neb in cinnu lamp a'n i rhoi 'ddi o dan dishgyl neu o dan gwely? Senon‐nhwy'n i chinnu 'ddi a'i rhoi 'ddi ar stand? Sdim byd wedi câl i gwato ond in unswydd i gâl i ddangos in i pen draw, a sdim byd wedi câl i roi i gadw ond in unswydd i ddwâd ag e mas in i pen draw. Os wes cluste 'da chi, iwswch nhwy.” Gwedodd‐e wrthon nhwy to, “Silwch ar beth ŷch‐chi'n i gliwed. Fel ŷch‐chi'n rhoi ŷch‐chi'n mynd i gâl, a hyd 'n‐ôd câl mwy na 'ny. I'r dyn sydd â rwbeth 'dag e'n barod bydd hyd 'n‐ôd mwy in câl i roi; a'r dyn sydd â dim 'dag e, wel bydd hyd 'n‐ôd beth sy 'dag e in câl i gwmrid bant wrtho fe.”