YouVersion Logo
Search Icon

Marc 3:20-30

Marc 3:20-30 DAFIS

Âth e getre weth, a shwrne to we gwmint o growd 'na fel wedd‐e'n ffeili bita pryd o fwyd hyd 'n‐ôd. Pan gliwodd i dilwith am beth we'n digwydd, ethon‐nhw ati i neud rwbeth i stopo fe; achos wên‐nhwy'n meddwl na wedd‐e'n llawn llathen. We'r dinion we'n disgu'r Gifreth we wedi dwâd lawr o Jeriwsalem in gweud bo Belsebwb in fishtir arno fe a bo brenin i jawled in i helpu fe i dowlu jawled erill mas o ddinion. So galwodd‐e arnon nhwy i ddwâd ato fe a sharadodd‐e 'da nhwy in iwso damegion, “Shwt gall Satan dowlu Satan mas? Os wes gwlad wedi troi in erbyn i hunan gall‐i ddim sefyll. Os ma teulu wedi troi in erbyn i 'unan gall‐e ddim sefyll whaith. Nawr os ma Satan wedi troi in erbyn i 'unan, mewn geirie erill mae‐e wedi'i rannu, gall‐e ddim sefyll whaith — a 'na i ddiwedd e. Sneb in galler torri miwn i dÿ dyn cryf a dwgyd i bethe fe os na fydd‐e wedi clwmu'r dyn cryf in sownd in ginta. Dim ond wedyn gall‐e ddwgyd o'i dŷ e. 'Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, bydd pechode a cable pob un in câl u madde; ond os bydd rhywun in gweud cable in erbyn ir Isbryd Glân gall‐e byth gâl i fadde; ma'i bechod e in aros am byth.” Gwedo Iesu hyn achos u bo nhwy in gweud “Ma isbryd drwg indo fe.”