YouVersion Logo
Search Icon

Marc 2:23-28

Marc 2:23-28 DAFIS

Dy' Sabath we Iesu'n cered trw'r perci llafur, a fel we'i ddisgiblion e'n cered wen‐nhw'n pigo I'r llafur. Gwedo'r i Ffariseied wrtho fe, “Dricha arnyn nhwy, pam man‐nhwy neud rwbeth sy torri'r Gifreth ar ddy Sabath?” Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Senoch‐chi ariôd wedi darllen am beth nâth Dafydd a'r rhei we 'dag e pan wên‐nhwy'n llwgu o ishe bwyd? Âth‐e miwn i Dŷ Duw, pan we Abiathar in Ffeirad Mowr, a bita'r bara we wedi câl i roi o flân Duw, a fe roiodd‐e beth i'r rhei we dag e 'fyd (a ŷch‐chi gwbod in iawn taw dim ond 'da'r ffeiradon ma hawl i fita'r bara).” Gwedodd‐e wrthon nhwy, “Cas dy' Sabath i neud ar gownt dyn, a ddim dyn ar gownt dy' Sabath. A ma Crwt i Dyn in Fishtir hyd 'n‐ôd ar ddy' Sabath.”