YouVersion Logo
Search Icon

Marc 2:13-17

Marc 2:13-17 DAFIS

Âth Iesu mas wedyn weth i lan i llyn. Dâth i bobol i gyd ato fe, a wedd‐e'n u disgu nhwy. Wrth‐'o fynd heibo gwelodd‐e Lefi, crwt Alffeus, in ishte in ir offis lle wedd‐e'n casglu trethi, a wedo Iesu wrtho fe, “Dere ar in ôl i.” Gadodd Lefi i offis a dilyn Iesu. A we Iesu in ishte wrth i ford in bita in tŷ Lefi, a dâth lot o'r dinion we'n casglu trethi a pechaduried ato fe a'i ddisgiblion; achos we lot o ddinion fel 'na am fod in i gwmni e. Dâth rhei o'r dinion we'n disgu'r Gifreth a'r Ffariseied ar i ôl e. A pan welon‐nhwy i fod e'n bita 'da pechaduried a rheiny we'n casglu trethi fe ofinon‐nhwy wrth i ddisgiblion, “Pam mae‐e'n bita da'r dinion sy'n casglu trethi a'r pechaduried 'ma?” Cliwo Iesu a gwedodd‐e wrthon nhwy, “Sdim ishe doctor ar ddinion sy'n iawn, on ma ishe un ar ddinion tost; achos sana i wedi dwâd i alw dinion da, ond dinion drwg.”